Bwydo ar y Fron

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:27, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaethoch, ac rwy'n falch iawn o weld eich bod yn cefnogi'r pwynt a wnaed yn y Siambr hon gan Jayne Bryant eisoes, ar yr un cynllun yn union. Mae'n bwysig fod—. Mae normaleiddio bwydo ar y fron yn rhywbeth y mae gan fusnesau ran i'w chwarae ynddo, yn bendant. Rhai o'r pethau sy'n fy nghythruddo fwyaf am straeon am fwydo ar y fron yw pan fo busnesau wedi gofyn i bobl adael eu safle. Felly, dyna ran o'r her i bob un ohonom, o ran sicrhau, yn amlwg, fod yr amgylchedd yn iawn, ond y pwyntiau a godwyd gan Jenny Rathbone hefyd ynglŷn â sut y mae darparu cymorth i fenywod, i deuluoedd, i gychwyn bwydo ar y fron, a pharhau i wneud hynny. Nid yw'n wir fod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn naturiol ac yn hawdd i bawb. Mae angen cefnogaeth ar rai pobl, ac fel tad heb fod mor newydd â hynny, rwy'n cydnabod bod y gefnogaeth a gawsom gan y gwasanaeth iechyd ac ar sail wirfoddol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n teulu ni.