Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, rydym yn dechrau o bwynt o anghytundeb sylfaenol, gan nad yw'r ymchwil a wnaed yn Portsmouth yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod—na'r GIG yn Lloegr yn wir—o ran graddfa'r twyll yn y GIG, ac mae'r ymchwil yn cynnwys nifer o ragdybiaethau. Felly, nid yw'n ffigur rydym yn ei gydnabod. Fodd bynnag, rydym o ddifrif ynglŷn â heriau twyll yn y GIG. Mae gennym uned gwrth-dwyll sy'n gweithio nid yn unig yng Nghymru ond sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr hefyd. Roedd rhan o'r hyn y soniai'r ymchwil amdano yn bethau na fyddech o reidrwydd yn eu hystyried yn dwyll. Rydych yn meddwl am gamddefnydd masnachol o rai cysylltiadau, sy'n rhan o'r hyn roeddent yn meddwl amdano, ac mewn gwirionedd, mae gennym amrywiaeth o gamau cyfreithiol, fel sydd gan awdurdodaethau eraill yn y DU, ynglŷn â thorri rheolau patentau a chamddefnyddio'r farchnad. Mae'n rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol ystyried rhai o'r materion hyn hefyd o ran ein safbwynt ar gamau cyfreithiol sy'n mynd rhagddynt, ond ar hyn o bryd, wrth gwrs, gallwn wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol drwy wneud y defnydd gorau o reoliadau'r Undeb Ewropeaidd. Bydd hynny, wrth gwrs, yn anos os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd maes o law.