Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffaith nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at dwyll yn y GIG yng Nghymru. Y mis diwethaf, dyfarnwyd dau gyn-weithiwr meddygfa yng Nghasnewydd yn euog o ffeilio presgripsiynau yn dwyllodrus a gorchmynnwyd iddynt ad-dalu miloedd o bunnoedd i'r GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y gellir eu cymryd i atal y math hwn o dwyll, sy'n costio miliynau o bunnoedd i'r GIG? A ydych wedi edrych i weld a all technoleg gynnig ateb mewn perthynas â thwyll presgripsiynau?