Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, mae'r Aelod yn gwneud honiad rhyfedd iawn, ond rwy'n falch o ddweud unwaith eto: mae gennym fwy o nyrsys cofrestredig nag erioed o'r blaen yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Ac o ran eich sylwadau ynglŷn â threfniadau goramser a threfniadau banc nyrsio—mae rhai pobl yn dewis gwneud y trefniadau hynny. Gwyddom hefyd fod rhai pobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn amrywiaeth o wahanol amgylchiadau. Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith i feddwl am gywirdeb ac effeithlonrwydd trefniadau banc nyrsio. Rydym yn ystyried syniadau a gyflwynwyd i ni gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ynghylch creu banc ar gyfer Cymru gyfan. Rydym yn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer e-amserlennu, gan eu bod yn drefniadau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion eu hunain o ran sut y dymunant fyw eu bywydau, ond hefyd o ran diwallu anghenion y gwasanaeth iechyd. Rydym yn mynd ati i recriwtio nyrsys. Mae ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn mynd ati'n llwyddiannus i werthu Cymru fel cyrchfan i bobl ddod yma.
Fe ddywedaf wrthych—roeddwn yn Belfast yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol, yr unig Weinidog iechyd o'r DU a oedd yno gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn eu cynhadledd, ac roedd y croeso a gawsom, nid yn unig gan nyrsys yng Nghymru, ond o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yn arwyddocaol. Roeddent yn cydnabod ein bod, yng Nghymru, yn gwerthfawrogi nyrsys, ein bod o ddifrif ynghylch recriwtio a chadw nyrsys. Roeddent hefyd yn cydnabod ein bod o ddifrif ynghylch hyrwyddo diwygio a gwneud y defnydd gorau o bobl o fewn y teulu nyrsio. Ni allech gamgymryd brwdfrydedd nyrsys Cymru ynglŷn â'r amgylchedd y maent yn gweithio ynddo, eu balchder yn y gwasanaeth, a'r ffaith eu bod yn gwybod bod ganddynt Lywodraeth sydd ar eu hochr hwy. Ni fyddech yn gweld unrhyw beth tebyg i'r un teimlad ymhlith nyrsys sy'n gweithio yn Lloegr.