Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 23 Mai 2018.
Mae'n feirniadaeth ddamniol o'ch Llywodraeth, fel y dywedaf, os ydych yn parhau i wario mwy, ein bod yn cael llai o ganlyniadau o ran nifer y nyrsys cyfwerth ag amser llawn, fel rwyf wedi'i ddatgan yn ffeithiol, yn seiliedig ar eich ffigurau StatsCymru. Rwyf ond yn ochri gyda'r ffeithiau hynny fel y'u cyflwynwyd gan eich ystadegwyr. Nawr, gwyddom hefyd fod GIG Cymru yn parhau i ddibynnu'n helaeth ar nyrsys sy'n gweithio goramser—mae 71 y cant o nyrsys yn gweithio goramser o leiaf unwaith yr wythnos. Golyga hynny fod 16,000 o nyrsys yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd bob wythnos oherwydd diffyg staff. Yn ddiweddar, clywsom y ffigurau gan y BBC, yn seiliedig ar gais rhyddid gwybodaeth, fod Betsi Cadwaladr wedi colli dros 77,000 diwrnod o ganlyniad i staff yn dioddef o straen a phryder, sy'n dangos problem gorweithio ymysg staff mewn amgylcheddau prin o staff. Nawr, dyma dri opsiwn i chi: gallwch naill ai anfon llythyr at y BBC i ddweud wrthynt fod eu ffigurau yn anghywir, gallwch ailadrodd yr hyn a ddywedoch yn gynharach nad yw'n ymwneud â straen ond â chyfraddau adrodd gwell mewn perthynas â straen, neu gallwch dderbyn bod Cymru, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn brin iawn o staff mewn perthynas â nyrsys cymwysedig amser llawn, a bod y nyrsys sydd gennym, o ganlyniad, o dan bwysau afresymol ac nad yw cleifion wedi derbyn y gofal y mae eich Llywodraeth wedi cyfaddef na ellir ei ddarparu heb sicrhau lefelau staffio diogel.