Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch i chi, Weinidog. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae un o fy etholwyr, Paul Davies, paralympiad ysbrydoledig, yn brwydro i hyfforddi ar gyfer Tokyo 2020 oherwydd diffyg cefnogaeth gan adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol. Oni bai bod Paul yn cael y cymorth y mae ei angen i fynychu sesiynau hyfforddi, ni fydd yn ennill lle yn y tîm, ac nid yn unig y bydd Cymru'n colli un o'i gobeithion am fedal ond byddwn yn gwarafun cyfle i Paul gyrraedd ei lawn botensial. Weinidog, pe bai Paul yn byw mewn awdurdod lleol gwahanol, byddai'n cael ei gefnogi, fel sydd wedi'i brofi yn fy ngwaith ymchwil. Rwyf wedi dihysbyddu pob sianel bron gyda Paul Davies, sydd eisoes yn enillydd medal efydd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi diwedd ar y loteri cod post mewn gofal cymdeithasol, ac yn yr achos penodol hwn, a wnewch chi weithio gyda mi i ddod o hyd i ateb fel y gall Paul fynychu'r gemau? Diolch.