2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisi gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl anabl? OAQ52233
Yn wir. Fe ymatebaf, Caroline, os caf fi, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau, gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl anabl, gyda'r flaenoriaeth allweddol ar wella eu lles.
Diolch i chi, Weinidog. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae un o fy etholwyr, Paul Davies, paralympiad ysbrydoledig, yn brwydro i hyfforddi ar gyfer Tokyo 2020 oherwydd diffyg cefnogaeth gan adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol. Oni bai bod Paul yn cael y cymorth y mae ei angen i fynychu sesiynau hyfforddi, ni fydd yn ennill lle yn y tîm, ac nid yn unig y bydd Cymru'n colli un o'i gobeithion am fedal ond byddwn yn gwarafun cyfle i Paul gyrraedd ei lawn botensial. Weinidog, pe bai Paul yn byw mewn awdurdod lleol gwahanol, byddai'n cael ei gefnogi, fel sydd wedi'i brofi yn fy ngwaith ymchwil. Rwyf wedi dihysbyddu pob sianel bron gyda Paul Davies, sydd eisoes yn enillydd medal efydd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi diwedd ar y loteri cod post mewn gofal cymdeithasol, ac yn yr achos penodol hwn, a wnewch chi weithio gyda mi i ddod o hyd i ateb fel y gall Paul fynychu'r gemau? Diolch.
Caroline, credaf eich bod, mae'n debyg, wedi gwneud cymwynas mewn rhyw ffordd drwy godi'r mater heddiw, oherwydd mae'r awdurdod lleol, sy'n ceisio rhoi'r gofal a'r cymorth cywir gyda llaw, nid yn unig o ran gofal, ond hefyd o ran byw'n annibynnol, a rhan o fyw'n annibynnol hefyd yw'r gallu i ymgymryd â chwaraeon, hobïau a'r ffordd o fyw y dylai pawb fod â hawl iddi—. Nawr, gwn eu bod yn awyddus i wneud hynny. Mae'n anodd i mi wneud sylw ar yr achos unigol, ond drwy ei godi heddiw, rwy'n credu y bydd yr awdurdod lleol a'r cyrff llywodraethu chwaraeon hefyd yn ymwybodol iawn o'r angen i ddiogelu ffordd o fyw a buddiannau Paul, sydd wedi rhagori fel paralympiad. Mae'n bwriadu gwneud mwy yn y dyfodol hefyd, ac rydym yn dymuno'n dda iddo gyda hynny yn ogystal.
A gaf fi awgrymu eich bod, os gallwch, gyda'ch etholwr, yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol rheng flaen sy'n ceisio dyfeisio pecyn gyda Paul? Mae'n broses barhaus, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'n gymhleth iawn, ond maent yn barod i'w wneud, a gobeithiaf y byddant yn gallu dod i'r pwynt, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn unol â'r syniad hwnnw o gyd-gynhyrchu pecynnau sy'n cael eu cytuno gydag unigolion yn hytrach na'u gorfodi ar unigolion—gwn ei bod yn broses anodd—lle byddant yn dod o hyd i'r pecyn cywir i Paul a fydd yn caniatáu iddo ddilyn ei uchelgeisiau chwaraeon yn ogystal â byw'n annibynnol. Gwn fod yna barodrwydd yn yr awdurdod lleol i wneud hynny, felly cysylltwch â hwy os gwelwch yn dda.
Yn eich ymateb i Caroline Jones, Weinidog, soniasoch am wella lles pobl anabl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys helpu'r cyhoedd yn ehangach i ddeall rhai o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Ym mis Ionawr eleni, cynhaliais ddadl fer ar bolisi sgoriau ar y drysau mewn perthynas â mynediad ar gyfer pobl anabl, yn dilyn deiseb gan Gynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr. Ar y pryd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn awyddus i glywed awgrymiadau ymarferol ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Un o amcanion eraill y polisi yw rhoi hwb i fusnesau i fod eisiau gwella mynediad i adeiladau. Dylai'r prif gynghorwyr ar hynny, wrth gwrs, fod yn bobl sydd ag anableddau, ond gallaf weld y byddai gan therapyddion galwedigaethol, yn y GIG neu'r awdurdod lleol, sy'n gweithio ym maes ailalluogi, gyngor i'w gynnig yma ar gynllunio'r gwelliannau hynny. Felly, a fyddech yn hapus i gyfarfod â chynrychiolwyr Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am eu syniad gwreiddiol ac i ddatblygu rhai o'r materion ymarferol?
Diolch. Mae gennym ffordd o weithio yng Nghymru sy'n ymwneud ag eistedd gyda phobl a datrys pethau gyda'n gilydd. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod. Rwy'n adnabod Simon yn dda, yn bersonol ac yn unigol—gwn eich bod chi hefyd. Mae'n unigolyn gwych. Mae'n ymgyrchwr brwd iawn yn wir. Mae'n syniad diddorol ac rwy'n credu bod rhinweddau ynddo. Mae angen i ni feddwl drwyddo er hynny ac mae'n debyg y bydd angen i ni ei drafod: beth yw'r dull gorau o sicrhau y bydd yn sefyllfa lle y bydd unrhyw berson gydag ystod o anableddau yn gwybod—ac mae wedi tynnu sylw ato o ran yr arwyddion bwyd a wnawn, y sgoriau hylendid ac ati—pa un a oes rhyw ffordd o wneud hyn? Gallai fod yn fodel ganddo ef neu gallai fod yn rhywbeth arall, ond rwy'n fwy na hapus i eistedd gyda chi ac eraill, a chyda Simon yn ogystal, a siarad am yr hyn y gallem ei wneud ac osgoi unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol. Gadewch i ni wneud pethau'n iawn os ydym am fwrw ymlaen â rhywbeth.