Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch i chi am hynny. O ran canlyniadau, nid wyf yn credu y byddai neb yma'n anghytuno mai dyna'r peth pwysicaf, ac yn wir, mae nifer o bobl rwyf wedi siarad â hwy wedi canmol y gronfa gofal integredig. Ond nid wyf yn credu y gall Llywodraeth Cymru dynnu ei throed oddi ar y pedal mewn perthynas â helpu gyda thryloywder fel y gallwn ddeall y cyllidebau rydych yn eu cyflwyno bob blwyddyn. Nid wyf yn credu bod ceisio symud oddi wrth hynny a'i ystyried yn ddibwys yn creu argraff, mae arnaf ofn.
Yr hyn y buaswn yn hoffi ei groesawu yw eich bwriad i sefydlu canolbwynt yng Nghymru, drwy Gofalwyr Cymru, ar gyfer Cyflogwyr i Ofalwyr, rhywbeth y mae Lloegr, yn amlwg, wedi'i gael ers 10 mlynedd bellach, ac rwy'n wirioneddol falch ei fod yn dod yma. O'r rhai o'r trafodaethau a gefais gyda phobl sy'n ymwneud â gofalu ar wahanol lefelau, mae'n ymddangos yn eithaf clir nad yw llawer o fusnesau'n deall yn iawn beth yw rôl gofalwr, beth yw eu hawliau a pha fath o gymorth y gellid ei gynnig, gan ei fod yn amrywio'n fawr, wrth gwrs, o fusnes i fusnes ac o ofalwr i ofalwr, weithiau o fewn adrannau unigol mewn cwmnïau mwy o faint hyd yn oed. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gwyddoch mae'n debyg, yn hoffi cyflwyno cymhelliad ariannol ar gyfer oedolion ifanc sy'n ofalwyr i aros mewn addysg ôl-16 neu brentisiaethau fel eu bod yn gallu camu ymlaen mewn gyrfa, ond rydym yn cydnabod—ac rwy'n meddwl tybed a ydych yn cytuno â hyn—y gallai rhai cyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau gael eu hatal rhag eu cynnig i oedolion ifanc sy'n ofalwyr oherwydd y cyfrifoldebau gofalu hynny. Os felly, sut y credwch y gallai eich canolbwynt helpu cyflogwyr i edrych y tu hwnt i'r cyfrifoldebau hynny ac ar y person ifanc llawn cymhelliant sydd eisiau'r brentisiaeth honno mewn gwirionedd?