Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 23 Mai 2018.
Yn wir. Byddaf yn edrych i weld a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hynny. O ran y gallu i olrhain yr arian, nid wyf yn siŵr a fyddant yn dweud a yw wedi dod o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu—y £3 miliwn sy'n cael ei neilltuo o'r £50 miliwn o arian TGCh—a yw'n dod o fathau eraill o gyllid sydd eisoes o fewn arian y grant cynnal refeniw, neu a yw o fewn cyfrannau ariannu eraill sy'n cael eu dwyn i mewn i hyn. Un o'r pethau rydym wedi'i wneud ar gyfer awdurdodau lleol—yn ôl eu cais, mae'n rhaid i mi ddweud—yw rhoi hyblygrwydd iddynt mewn perthynas â hyn er mwyn canolbwyntio ar y canlyniadau ar gyfer gofal seibiant. Yn wir, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud yn glir iawn yn ei hadroddiad 'Ailystyried Seibiant' nad oedd digon o hyblygrwydd; roedd yn rhy gaeth i agweddau traddodiadol tuag at seibiant. Mae hi ac awdurdodau lleol wedi dweud, 'Rhowch yr hyblygrwydd i ni—rhowch yr arian i ni, ond rhowch yr hyblygrwydd i ni'.
Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei fesur yw a ydynt wedi cyflawni'r canlyniadau yn hytrach na pha gyfran o arian sy'n cael ei neilltuo ar ei gyfer—fod yna becynnau gofal seibiant wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n ddigon hyblyg ar gyfer pob unigolyn. Dyna'r canlyniad gwirioneddol, yn hytrach nag o ble y daeth y gyfran benodol o arian i sicrhau'r canlyniad hwnnw. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch ynglŷn ag a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd mewn gwirionedd.