Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. Ddiwedd y mis diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ysgrifennoch chi at holl Aelodau'r Cynulliad yn egluro bod honiadau'r blaid gyferbyn fod nifer y nyrsys yn Betsi Cadwaladr yn gostwng, honiadau a oedd yn seiliedig ar ddata rhyddid gwybodaeth, yn anghywir. Yn hytrach, roeddech yn honni bod Betsi Cadwaladr, fel gweddill Cymru, wedi gweld cynnydd yn nifer y nyrsys cymwysedig. Nawr, rydym wedi archwilio ffigurau StatsCymru, a wyddoch chi beth? Mae'r ffigurau hynny'n dangos y bu cynnydd bach yn nifer y nyrsys cymwysedig, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn Betsi Cadwaladr rhwng mis Medi 2015 a 2017. Nawr, byddai sinig yn dweud eich bod wedi dewis mis Medi 2015 yn fwriadol fel man cychwyn. Pe baem yn dewis mis Medi 2014 fel man cychwyn, mae'r un ffigurau gan StatsCymru yn dangos gostyngiad yn nifer y nyrsys cyfwerth ag amser llawn yn Betsi Cadwaladr o gymharu â mis Medi 2017. A wnewch chi dderbyn nad yw pethau mor ddymunol ag yr awgrymwyd gennych yn y llythyr hwnnw y mis diwethaf?