Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:37, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Roedd fy llythyr yn ffeithiol gywir, yn wahanol i'r honiadau a wnaed gan y Ceidwadwyr. Mae'n ddiddorol fod Plaid yn ceisio achub cam y Torïaid ac yn edrych am dir cyffredin rhyngddynt. Y gwir diamau yw bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Rydym yn buddsoddi mwy yn ein staff nag erioed o'r blaen. Rwy'n falch o'r hanes sydd gennym yma yng Nghymru. Gallwch weld gwir wahaniaeth rhwng ein gwerthoedd ni a rhai'r blaid gyferbyn, ac yn amlwg, yn y dewisiadau buddsoddi a wnawn, lle rydym yn dewis cefnogi pobl hefyd. Nid wyf am esgus bod cael yr holl staff yr hoffem eu cael yn ymarfer hawdd, yn enwedig o dan ddau gwmwl Brexit a'r polisi cyni. Ond rwy'n dweud wrth yr Aelod y tu ôl i mi: bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ymrwymo nid yn unig i werthoedd y gwasanaeth iechyd gwladol, ond i'r angen i gael y niferoedd cywir o staff, a byddwn yn gwneud hynny o dan yr amgylchiadau ariannol hynod o heriol hyn.