Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, lansio ein strategaeth drefol yr wythnos diwethaf, a rhoesom rai mesurau ar waith i wella ansawdd aer, megis y gofyniad i bob ysgol a meithrinfa fonitro ansawdd yr aer ar eu safle. Tybed pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, i ddechrau mynd i'r afael â melltith ansawdd aer gwael yng Nghymru mewn ffordd amlochrog, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol, wrth gwrs, yn gofyn i chi ei wneud.