2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal a thrin salwch anadlol? OAQ52222
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae ein dull o drechu salwch anadlol wedi'i nodi yng nghynllun cyflawni Cymru ar iechyd anadlol, a gafodd ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ym mis Ionawr. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gofal anadlol, ac yng Nghymru, mae gwariant wedi codi o £338 miliwn yn 2009-10 i £432 miliwn yn 2016-17.
Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg a gynhaliwyd gan Asthma UK yn 2017 fod dros 300,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag asthma, fod miloedd o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob blwyddyn a bod 62 o bobl wedi marw yn 2016. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r marwolaethau yn ataliadwy gyda gofal sylfaenol gwell, a dywedir bod safonau gofal sylfaenol yn cael eu cyflawni mewn dros 48 y cant o achosion yng Ngogledd Iwerddon, ond ar ben arall y raddfa, 26.1 y cant yn unig yng Nghymru. Felly, pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau yng Nghymru?
Rwy'n hapus i ailymrwymo i wella safonau ar draws y cyflyrau anadlol. Bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny yn y misoedd nesaf. Mae yna brosiect diddorol a arweinir gan nifer o bobl ynglŷn â'r posibilrwydd o ganolfan arloesi anadlol, ac rwy'n arbennig o gyffrous yn ei chylch. Mae'n bosibl y bydd yna fanteision economaidd yn ogystal â manteision gofal iechyd i hynny. Ar asthma, y peth am yr adroddiad a ddarparwyd gan Asthma UK yw, o ystyried maint y sampl, na fuaswn yn cytuno'n llwyr â'r holl honiadau y maent yn eu gwneud ynglŷn â natur gymharol y gofal a ddarperir yng ngwahanol wledydd y DU, ond maent yn gywir at ei gilydd y gallem ac y dylem wella gofal iechyd, ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel arbenigol.
Mewn gwirionedd, rydym mewn sefyllfa lle mae bron bob practis cyffredinol yn cymryd rhan yn yr archwiliad clinigol o ofal sylfaenol ar gyfer asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae hynny'n rhoi darlun da o ansawdd y gofal a ddarperir yn lleol a meysydd ar gyfer gwella. Ac mae hwn yn faes allweddol lle rydym, mewn gwirionedd, yn gwella gwerth, oherwydd mae nifer o glinigwyr wedi edrych ar y triniaethau sydd ar gael ac maent yn dewis y cynnyrch gwerth gorau yn eu barn hwy, ac nid hwnnw yw'r cynnyrch sy'n costio fwyaf bob amser. Felly, byddwn yn cael gwell gwerth am ofal, ac wrth gwrs, mewn perthynas â gofal asthma, rydym wedi gweld rhywfaint o'r cyffuriau a'r triniaethau newydd sydd ar gael yn cael eu cyflwyno'n gynt yma drwy'r gronfa triniaethau newydd, gan gyflawni ein haddewid maniffesto i bobl Cymru. Felly, rydym yn cydnabod bod gennym fwy i'w wneud eto, ond mae gennym ymrwymiad go iawn, a chredaf fod gennym resymau da iawn dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â'n gobaith o wella canlyniadau gofal yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, lansio ein strategaeth drefol yr wythnos diwethaf, a rhoesom rai mesurau ar waith i wella ansawdd aer, megis y gofyniad i bob ysgol a meithrinfa fonitro ansawdd yr aer ar eu safle. Tybed pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, i ddechrau mynd i'r afael â melltith ansawdd aer gwael yng Nghymru mewn ffordd amlochrog, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol, wrth gwrs, yn gofyn i chi ei wneud.
Rwy'n falch o gadarnhau bod sgyrsiau'n digwydd ar draws y Llywodraeth, nid yn unig gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond gyda'r Gweinidog, sy'n arwain ar y cynllun aer glân ar gyfer Cymru. Mae rhywbeth yma ynghylch deall cyfraniad y gwasanaeth iechyd gwladol a'r hyn y gallwn ei wneud i wella ansawdd yr aer yn ogystal â'r modd y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol ei hun yn gweithredu. Dyma'r cyflogwr mwyaf yn y wlad; roeddem yn siarad yn gynharach am y ffaith mai dyma'r unig wasanaeth cyhoeddus i fod â nifer gynyddol o staff, ac mae mwy na 90,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae sut y mae pobl yn cyrraedd y gwaith, sut y gallwn ei gwneud yn haws iddynt gyrraedd y gwaith a sut rydym yn gwella'r broses o weithredu rhannau sylweddol o ystâd y GIG yn rhan o'r hyn y gallwn ei wneud, yn ogystal â meddwl, wrth gwrs, am ganlyniadau ansawdd aer gwael o ran angen y gwasanaeth iechyd.
Ymwelais ag Ysbyty Gwynllyw yn ddiweddar, enghraifft wych o ysbyty sy'n edrych ar y ffordd rydym yn lleihau ein hôl troed drwy gael llai o symudiadau ar ac o amgylch safleoedd ysbyty, a gwelais arloesedd newydd Sterimelt, sy'n troi rhywfaint o'r offer a ddefnyddir mewn theatrau ysbyty yn flociau mwy y gellir eu defnyddio wedyn ar gyfer ffilament argraffydd 3D. Felly, mae honno, mewn gwirionedd, yn ffordd dda iawn o ddefnyddio cynnyrch gwastraff, a fyddai wedi mynd i safle tirlenwi fel arall gyda llawer o symudiadau lorïau i mewn ac allan cyn y dechnoleg honno—gan leihau nifer y symudiadau lorïau y byddai eu hangen i wneud hynny. Bellach, mae gennym y cynnyrch hwnnw'n troi'n gynnyrch gwahanol, defnyddiol. A'r peth da yw ei fod wedi cael ei ddatblygu gan gwmni yng Nghymru, sy'n dal i fod wedi'i leoli yng Nghymru—yn fy etholaeth i, dylwn ddweud, Lywydd—ond mae gennym gyfle go iawn i weld hwnnw'n cael ei droi'n gynnyrch mwy defnyddiol i'w ddarparu eto drwy'r gwasanaeth iechyd gwladol.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu yn Sir Benfro? OAQ52209
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn elfen greiddiol o ofal sylfaenol a darparu system iechyd gynaliadwy. Mae ein hymgyrch ar gyfer gwelliant parhaus yn cael ei chefnogi gan y gronfa gofal sylfaenol sy'n werth bron i £43 miliwn ac sy'n llywio newid ac arloesedd ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro wrth gwrs, ac yn 2018-19, dyrannwyd £4.69 miliwn o'r gronfa i Hywel Dda tuag at eu cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd gwasanaethau, gwell mynediad, a darparu mwy o wasanaethau yn lleol.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo'r cais i gau meddygfa St Clement yn Neyland yn fy etholaeth, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar gleifion yn y feddygfa a fydd yn awr yn gorfod teithio i Ddoc Penfro am driniaeth ac a fydd yn gorfod talu costau ariannol am deithio dros bont Cleddau. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—sydd yn ei le ar hyn o bryd—o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar y tollau ar bont Cleddau, fel na fydd cleifion yn fy etholaeth yn gorfod talu costau ariannol er mwyn defnyddio gwasanaethau meddygon teulu hanfodol?
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn hapus i amlinellu'r cynnydd y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar bont Cleddau maes o law. O ran gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol yn Neyland, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae yna drafodaethau ar y gweill i ystyried pa wasanaethau y gellir eu darparu o fewn yr ardal honno i leihau'r angen i deithio i rannau eraill o ardal y bwrdd iechyd am driniaeth bellach. Felly, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd i'w helpu, fel sy'n ofynnol, ond mae hwn mewn gwirionedd yn benderfyniad y mae'r grŵp ei hun wedi'i wneud ynglŷn â chau meddygfa gangen, ac mae hynny o fewn y rheolau y mae ymarfer cyffredinol yn gweithredu oddi tanynt gyda'r contractwr annibynnol mawr hwn. Ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i allu darparu amrywiaeth sylweddol o wasanaethau gofal iechyd lleol yn ardal Neyland i leihau'r angen i rywun deithio i Ddoc Penfro, gan gynnwys y cyfnod cyn i ni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â'r tollau.
Wel, mae arnaf ofn nad yw'r weledigaeth rydych wedi'i nodi yn wir yn Sir Benfro mewn perthynas â mynediad at feddygon teulu. Yn y ddau fis diwethaf, rwyf wedi cael diweddariadau cyson gan fwrdd iechyd Hywel Dda ynglŷn â diffyg argaeledd meddygon teulu dros y penwythnos. Yr wythnos diwethaf, cysylltodd etholwr o Arberth â mi ar ôl ffonio ei meddygfa 82 o weithiau cyn llwyddo i gael apwyntiad. Mae fy nhrafodaethau gyda fy etholwyr ynglŷn â chynigion ad-drefnu iechyd Hywel Dda wedi troi o gwmpas y ffaith bod yna system ddogni anffurfiol ar gyfer mynediad at feddygon teulu bellach yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin sy'n ymwneud â'r ffaith ei bod hi'n amhosibl cael gafael ar feddyg teulu a chael apwyntiad. Pa bryd y byddwch yn gwneud gwaith strategol i sicrhau bod digon o feddygon teulu yn Sir Benfro mewn gwirionedd, ond yn fwy na hynny, bod gennym wasanaeth y tu allan i oriau priodol yn cael ei ddarparu gan feddygon teulu fel nad yw pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol?
Mae yna ddau bwynt yno, onid oes? Mae gennych bwynt ynglŷn â mynediad yn ystod oriau agor y feddygfa a'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael gweld y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd priodol. Weithiau, bydd hynny'n golygu meddyg teulu, ar adegau eraill bydd yn golygu ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, neu nyrs, neu fferyllydd, neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd gwahanol. Rwy'n falch o weld eu bod yn buddsoddi yn yr aelodau gwahanol hynny o staff yng nghlystyrau gogledd a de Sir Benfro er mwyn darparu'r gwasanaeth ehangach hwnnw.
Nid wyf yn cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud am ddogni bwriadol er mwyn ei gwneud yn amhosibl i bobl weld gweithiwr proffesiynol gofal iechyd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod yna heriau lleol mewn gwahanol rannau o'r wlad lle mae mynediad yn anodd mewn gwirionedd; rwy'n cydnabod bod hynny'n bodoli ledled y wlad. Mae yna rannau hefyd lle nad yw mynediad yn her. Mae'n rhan o'r trafodaethau rydym yn eu cael gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar newid y contract ar gyfer y dyfodol, oherwydd maent hwythau hefyd yn cydnabod bod mynediad yn peri pryder go iawn, gyda meddygon eu hunain yn cydnabod anfodlonrwydd staff sy'n cael eu rhoi yn y sefyllfa honno.
O ran gwasanaethau tu allan i oriau, rydym yn cyflwyno'r gwasanaeth 111; mae wedi cael ei gyflwyno yn rhan o ardal y bwrdd iechyd eisoes, yn Sir Gaerfyrddin, a bydd hynny'n ein helpu i sicrhau model mwy cadarn a chynaliadwy o ddarpariaeth tu allan i oriau. Ond rwy'n cydnabod bod heriau yn yr ardal hon hefyd, a'r hyn sydd heb ddigwydd wrth gwrs, yw'r newidiadau i drethiant y mae'r Aelod dros Lanelli wedi'u codi ar fwy nag un achlysur, ac mae'n anghymell pobl mewn gwirionedd. Ond fel arall, wrth gwrs, mae'r camau rydym wedi'u gwneud, ac y byddwn yn parhau i'w gwneud, ar yswiriant indemniad meddygon teulu yn helpu i ddarparu mwy o bobl i weithio yn y gwasanaeth tu allan i oriau, oherwydd mae methu datrys y mater hwnnw'n rhwystr i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth tu allan i oriau a'r gwasanaeth oriau agor. Felly, er na ddylem fod yn hunanfodlon, mae yna resymau da dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â'r dyfodol.