Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 23 Mai 2018.
Yn sicr, nid wyf am ymddiheuro am fynd i'r afael ag anwireddau'r Torïaid am y gwasanaeth iechyd gwladol. Gwnaed honiad yng nghwestiynau'r arweinwyr nad oedd yn wir. Mae'n gwbl iawn inni amddiffyn y gwasanaeth iechyd a chywiro'r Torïaid pan fyddant yn crybwyll ffeithiau anghywir. Rwy'n dal yn syfrdan fod Rhun yn dewis ochri â'r safbwynt hwnnw. Mae'n ffaith bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae hefyd yn wir fod gennym nifer o feysydd lle y ceir swyddi gwag a heriau, ac nid wyf erioed wedi ceisio cuddio—mae'r syniad fy mod yn hunanfodlon ynglŷn â'r heriau sy'n effeithio ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol yn gwbl chwerthinllyd. Mae angen inni fod yn onest ac yn aeddfed yn wyneb yr holl heriau hyn. Mae hefyd yn ofynnol i ni wneud popeth a allwn mewn cyfnod pan ydych yn cydnabod, fel finnau, fod gennym lai o adnoddau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus nag erioed o'r blaen o ganlyniad i wyth mlynedd o gyni Torïaidd. Er hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd gwladol—yr unig wasanaeth cyhoeddus lle mae gennym fwy o staff bellach nag ar ddechrau'r cyni. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad ac nid wyf am ymddiheuro am weithredoedd y Llywodraeth hon wrth inni fyw yn unol â'n gwerthoedd a diogelu dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol.