Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Suzy, am eich cwestiwn. Rwy'n falch o fabwysiadu cyfrifoldebau newydd penodol am bobl hŷn. Roedd yn wych bod yn y digwyddiad etifeddol yr wythnos diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Yn wir, credaf fod fy swyddogion wedi cyfarfod gyda hi ar dri achlysur dros y mis diwethaf, gan weithio ar gyfres o gynigion, fel y dywedodd, ac fel rwyf am ailadrodd yma, i 'wneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn'—yr hawliau lefel uchel hynny sydd eisoes wedi eu hymgorffori yn ein deddfwriaeth, eu gwneud yn rhai go iawn.
Credaf mai dyna'r ffocws, yn hytrach na darn mawr newydd sgleiniog o ddeddfwriaeth. Rwyf wrth fy modd yn cyflwyno deddfwriaeth, ond weithiau mae yna ffordd well, fwy uniongyrchol o fynd o'i chwmpas hi. Hoffwn ailadrodd rai o'r ffyrdd hynny, gan fod rhai o'r rhain mewn meysydd statudol a rhai mewn meysydd anstatudol—. Felly, er enghraifft, mae eiriolaeth yn allweddol—yn hollbwysig—i bobl hŷn. Faint y mae unigolyn hŷn—? Pe baech yn mynd i ganol Sir Gaerfyrddin a gofyn, 'Beth a wyddoch am eiriolaeth?', credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud, 'Beth ar y ddaear yw hynny? Pa hawl sydd gennyf i hynny?' Felly, mae sicrhau bod yr ymwybyddiaeth yno, ond sicrhau hefyd fod yr eiriolaeth, ar sail anffurfiol a phroffesiynol, yn iawn—. Felly, byddwn yn ailystyried rhan 10 o'r cod ymarfer ar eiriolaeth, gyda'r bwriad o ddatblygu canllawiau ymarferol go iawn, gwneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn i bobl a rhoi sylw dyledus i'r egwyddorion cadarn.
Pan gaiff ei gomisiynu, byddwn yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i oedolion yng Nghymru. Byddwn yn ystyried cyflwyno swyddogaeth stiwardiaeth ar gyfer eiriolaeth yn unol ag argymhellion gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Ceir sawl maes arall, megis ystyried y rheoliadau o dan ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut y gallwn eu diweddaru—y canllawiau sy'n deillio o hynny—i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, ac unwaith eto, i wneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn.
Ond byddaf yn gofyn i'r comisiynydd newydd hefyd, pan fydd yn ei swydd, i gadeirio gweithgor. Mater i'r comisiynydd newydd fydd pennu pa raglenni gwaith y byddant yn eu datblygu, ond gobeithio y byddai'r comisiynydd newydd yn agored i gadeirio gweithgor ar ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach a gwneud yr hawliau hynny'n hawliau go iawn i bobl hŷn heb fod angen Bil mawreddog, ond sicrhau eu bod yn brathu mewn gwirionedd.