Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 23 Mai 2018.
Rwy'n credu mai fy ymateb i hynny yw, os ydych eisiau gwneud hawliau'n real, rydych yn eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ac yn sicrhau y gall y llysoedd eu gorfodi.
Fe ofynnaf rywbeth arall i chi yn awr. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn y broses o gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol sy'n nodi sut y maent wedi defnyddio arian Llywodraeth Cymru i helpu gyda gofal seibiant ar gyfer gofalwyr yn eu hardaloedd, ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod hynny'n bwysig iawn.
Wrth gwrs, gallai'r adroddiadau hyn gynnwys gwybodaeth bwysig iawn ar arfer gorau a syniadau da a fyddai'n gweithio'n dda mewn gwahanol rannau o Gymru. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, fel y mae ein dwy blaid yn tueddu i'w ddweud. A allwch chi gadarnhau y bydd yr adroddiadau blynyddol hyn ar gael yn gyhoeddus, i helpu i rannu syniadau da, nid yn unig rhwng awdurdodau lleol ond gyda darparwyr eraill yn ogystal? A allwch chi gadarnhau a fydd yr adroddiadau'n nodi'n benodol ffynhonnell yr arian a ddefnyddir ar gyfer darparu'r gofal seibiant, pa un a fydd o'r grant cynnal refeniw, arian grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau ar y cyd gyda'r GIG neu unrhyw arian partneriaeth arall? Mae dilyn yr arian yn y maes polisi hwn yn eithaf anodd, ac rwy'n gofyn i chi helpu, Weinidog, gydag ychydig o dryloywder ar hyn.