Gwasanaethau Dialysis Arennol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a rhwydwaith clinigol arennol Cymru wrthi'n trafod gyda darparwyr gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth hemodialysis cronig ar hyn o bryd. Cydnabyddir bod Cymru yn arwain y DU o ran mynediad at ddialysis arennol drwy sicrhau bod dros 90 y cant o'r boblogaeth yn gallu cael mynediad at ddialysis o fewn amser teithio o 30 munud. Yng ngogledd Cymru, rydym eisiau ehangu'r gwasanaeth er mwyn rhoi cymorth pellach i'r dull hwn a pharhau i wella mynediad a chanlyniadau ar gyfer cleifion.