Gwasanaethau Dialysis Arennol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:57, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond deallaf fod y gwasanaethau arennol ar hyn o bryd yn cael eu darparu naill ai gan y GIG, gan ddarparwr annibynnol neu gyfuniad o'r ddau. Ym mis Chwefror, dywedodd y bwrdd iechyd y bydd y darparwr annibynnol cyfredol yn cael ei ailgomisiynu yn uned Bangor a'r uned ategol yn Alltwen. Yn dilyn hyn, mynegwyd pryderon am newidiadau posibl i'r telerau ac amodau ar gyfer staff a gyflogir gan bwy bynnag a fydd yn ennill y contract nesaf. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod a fydd y gweithlu presennol yn sicr o gael yr un telerau ac amodau ag y maent wedi'u mwynhau yn y gorffennol ac y bydd cleifion yn parhau i gael gofal o'r un safon uchel ag y maent yn ei haeddu mor agos at adref ag y bo modd.