Ad-drefnu Ysbytai

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:15, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych eisoes yn ymwybodol o fy ngwrthwynebiad llwyr i'r ymgynghoriad hwn, o gofio y bydd pob un o opsiynau'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, yn golygu israddio Ysbyty Llwynhelyg yn ysbyty cymunedol heb unrhyw gyfleusterau damweiniau ac achosion brys. Nawr, o ystyried na wnewch chi, fel Llywodraeth, ymyrryd yn benodol ar y mater hwn, oni wnewch chi gadarnhau o leiaf y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer pob un o'r tri chynnig, fel y gall pobl fod yn sicr fod y cynigion hyn yn realistig yn y lle cyntaf? Os na allwch wneud hynny, yna rwyf o'r farn fod yr ymgynghoriad hwn yn ffars llwyr.