2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori'n eang ar gynigion ar gyfer ad-drefnu ysbytai? OAQ52240
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol ac ysbytai ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddilyn y broses a nodir yn y canllawiau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd ac yn ei annog i sicrhau bod gan y cyhoedd bob cyfle i gymryd rhan yn y broses mewn ffyrdd traddodiadol a ffyrdd llai traddodiadol yn ogystal.
Diolch yn fawr iawn. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer yn ddibynnol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn, ac o'r sgyrsiau di-rif rwyf wedi'u cael, mae ymwybyddiaeth yn isel, ac mae'n deg dweud bod rhywfaint o amheuaeth fod y bwrdd iechyd wedi gwneud eu penderfyniad ymlaen llaw. Nid ydynt ond wedi argraffu 10,000 o gopïau o holiadur sy'n eithaf anodd i'w ddilyn, ac nid ydynt wedi darparu amlenni. Cysylltodd etholwr o Cross Hands â mi yr wythnos diwethaf yn gofyn i mi ofyn i chi a allech ofyn i'r bwrdd iechyd ysgrifennu at bob aelwyd yn ardal Hywel Dda i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynigion a'u bod yn cael eu hannog i gymryd rhan.
Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal sesiynau galw heibio, ond roedd llai na 100 o bobl wedi dod i'w sesiwn yn Llanelli ddoe. Ac mewn cyfarfod cyhoeddus a gefnogais bythefnos yn ôl, gyda Nia Griffith, roedd dros 200 o bobl yn bresennol a gwrthododd y bwrdd iechyd anfon neb i gymryd rhan mewn deialog ac egluro i bobl beth oedd y cynigion. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod Hywel Dda yn deall, os ydynt eisiau mynd â phobl gyda hwy, fod angen iddynt ymgysylltu'n agored a chael eu gweld yn ymgysylltu'n agored?
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac wrth gwrs, yn ogystal â'r ymarfer ymgynghori traddodiadol ar bapur, ceir yr her o gael sesiynau galw heibio fel y maent wedi penderfynu eu cynnal, lle mae ganddynt sesiynau ychwanegol y maent yn eu cynnal dros weddill y cyfnod ymgynghori, nad yw'n dod i ben, rwy'n credu, tan ail wythnos mis Gorffennaf. Ac mae yna her ynglŷn ag a fyddant yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus neu beidio. Buaswn yn disgwyl y bydd yna aelodau o'r cyhoedd sydd hefyd yn aelodau o'r gwasanaeth iechyd yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi safbwynt clinigol ar y mater.
Yr hyn rwy'n ei gydnabod yw, yn y cyfryngau cymdeithasol, ac o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae ganddynt amrywiaeth o glinigwyr yn sôn am y cynigion. Nid wyf yn credu y byddaf yn gofyn i Hywel Dda ysgrifennu at bob aelwyd. Mae rhan o'r her yn ymwneud â'r hyn rydych yn ei wneud a pha mor bell rydych yn mynd. Nid wyf yn siŵr fod y gost o sicrhau bod pob ymgynghoriad yn mynd allan, a'r enillion o wneud hynny, yn un synhwyrol, ond rwy'n cydnabod bod angen iddynt fanteisio ar gyfleoedd i weld lle nad yw pobl yn cael eu cyrraedd yn briodol. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un esgus bod proffil cyhoeddus isel i newidiadau i gynigion gofal iechyd yng ngorllewin Cymru, ond rwy'n fwy na hapus i gyfarfod â chi, os oes cynigion penodol, i geisio edrych ar yr hyn y gellid ei wneud i wella'r ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac i sicrhau bod Hywel Dda yn bachu ar bob cyfle rhesymol i ymgysylltu â'r cyhoedd.
Ac yn olaf, Paul Davies.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych eisoes yn ymwybodol o fy ngwrthwynebiad llwyr i'r ymgynghoriad hwn, o gofio y bydd pob un o opsiynau'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, yn golygu israddio Ysbyty Llwynhelyg yn ysbyty cymunedol heb unrhyw gyfleusterau damweiniau ac achosion brys. Nawr, o ystyried na wnewch chi, fel Llywodraeth, ymyrryd yn benodol ar y mater hwn, oni wnewch chi gadarnhau o leiaf y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer pob un o'r tri chynnig, fel y gall pobl fod yn sicr fod y cynigion hyn yn realistig yn y lle cyntaf? Os na allwch wneud hynny, yna rwyf o'r farn fod yr ymgynghoriad hwn yn ffars llwyr.
Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, a datgelodd Paul Davies ei safbwynt ar y dechrau: mae'n gwrthwynebu unrhyw newid. Ac edrychwch, mae hwnnw'n safbwynt iddo ef ei gymryd ac iddo ef ei egluro. Dyma ymgynghoriad a gynhelir gan y bwrdd iechyd sydd o ddifrif ynglŷn â'r heriau y mae'n eu hwynebu ac y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Nid oes gennyf farn ar unrhyw un o'r tri opsiwn sydd ar gael, oherwydd efallai y bydd yn rhaid i mi ddewis. Ni allaf gadarnhau felly na fyddaf yn ariannu unrhyw un o'r tri opsiwn oherwydd byddwn yn rhoi fy hun mewn sefyllfa lle na fyddaf yn gallu gwneud penderfyniad ar fater y byddaf, o bosibl, yn gyfrifol amdano. Mae'n gwbl bosibl hefyd, yn ystod yr ymgynghoriad, os yw'n ymgynghoriad go iawn, y bydd rhai o'r opsiynau'n newid. Felly, mewn gwirionedd, byddech yn gofyn i mi gytuno i ariannu rhywbeth na fydd yn gynnig go iawn yn y pen draw efallai, fel arall ni fyddai unrhyw ymgynghoriad—[Anghlywadwy.]—gallai newid neu fireinio unrhyw un o'r cynigion.
Af yn ôl unwaith eto at yr enghraifft yng Ngwent. Mae gofal iechyd yng Ngwent wedi newid yn sylweddol oherwydd yr ymarfer dyfodol clinigol. Daeth â staff a oedd yn cytuno ar fodel bras at ei gilydd a daeth ag ystod eang o randdeiliaid cyhoeddus at ei gilydd hefyd. Fodd bynnag, roedd hynny'n galw am broses nid yn unig i gael barn am y dyfodol ond i ddatblygu achos busnes ar gyfer newid ystâd yr ysbyty a gwasanaethau cymunedol hefyd. A'r hyn sydd wedi digwydd yn awr yw bod y Llywodraeth hon wedi buddsoddi yn ysbyty prifysgol y Grange i gyflawni'r darn olaf o'r weledigaeth honno a fydd hefyd yn galw am newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau ysbyty eraill eu gweithredu mewn safleoedd eraill, ac yn bwysicach na dim, newid yn y ffordd y darperir gofal iechyd lleol. Mae dros 90 y cant o'n rhyngweithiadau gofal iechyd o fewn gofal iechyd lleol. Nid ydym yn treulio unrhyw beth yn debyg i 90 y cant o'n hamser yn trafod gofal iechyd lleol yn y Siambr hon neu fel arall.
Byddaf yn gwneud yr hyn y dywedais y buaswn yn ei wneud ar ddechrau'r tymor hwn. Byddaf yn darparu'r gofod i'r gwasanaeth iechyd gwladol a'r cyhoedd gael ymgynghoriad, trafodaeth am ddyfodol gofal iechyd a'r newidiadau angenrheidiol yr oedd pawb ohonom yn cydnabod y byddai angen eu gwneud pan gefnogodd pob plaid yn y lle hwn yr arolwg seneddol. Roeddem yn gwybod y byddai dewisiadau anodd i'w gwneud ar y diwedd. Nid wyf am droi fy nghefn ar y posibilrwydd o orfod gwneud dewis, ond mae hwn yn ymgynghoriad i'r cyhoedd gymryd rhan ynddo, ac i staff gymryd rhan ynddo, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus iawn hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.