Gwasanaethau Dialysis Arennol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:59, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan y trefniadau newydd, rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau na fydd unrhyw staff y GIG yn symud i'r sector preifat, ond os oes unrhyw newid o gwbl mewn perthynas â staff yn symud o unrhyw gorff GIG i drydydd parti arall, a allwch gadarnhau na fydd hawliau pensiwn staff yn cael eu heffeithio yn hynny o beth? Hefyd, mae yna rai pryderon ynglŷn â newid a fydd yn arwain at gleifion yn talu am wasanaethau ychwanegol yn y Trallwng, a tybed a allech chi roi sylw ar hynny. Mae rhywfaint o'r offer hamdden a meddygol a brynwyd ar gyfer yr uned arennol wedi'u cyflenwi gan Gymdeithas Cleifion Arennol Gogledd Powys. Felly, yn sgil unrhyw newid, a gaf fi ofyn beth fyddai'r sefyllfa mewn perthynas â pherchnogaeth ar yr eitemau penodol hyn? A gaf fi ofyn hefyd a fydd cludiant cleifion yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd yn sgil unrhyw newid?