Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Gwn fod cwestiynau wedi bod am y maes eang hwn o'r blaen. Hoffwn ailadrodd y cymerwyd y cyfle i edrych ar y gwasanaeth cyfan i ehangu a gwella gwasanaethau ymhellach er mwyn gwneud yn siŵr fod gofal yn nes at adref i nifer fwy o bobl. Felly, mae cynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr adnoddau dynol wedi'u gwahodd i mewn i'r broses er mwyn datblygu gwasanaethau arennol, ynghyd â chlinigwyr wrth gwrs. Rwy'n hapus i nodi unwaith eto y bydd yr holl wasanaethau arennol arbenigol a gofal ymgynghorol yn parhau i gael eu darparu gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar y model terfynol, ond rwyf eisiau ailadrodd hyn yn glir iawn: ni fydd y Llywodraeth hon yn cymeradwyo camau i drosglwyddo staff y GIG i'r sector preifat. Rwyf am fod yn wirioneddol glir ac agored ynglŷn â hynny, oherwydd gwn fod rhai aelodau o staff yn pryderu am eu dyfodol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.