Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg a gynhaliwyd gan Asthma UK yn 2017 fod dros 300,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag asthma, fod miloedd o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob blwyddyn a bod 62 o bobl wedi marw yn 2016. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r marwolaethau yn ataliadwy gyda gofal sylfaenol gwell, a dywedir bod safonau gofal sylfaenol yn cael eu cyflawni mewn dros 48 y cant o achosion yng Ngogledd Iwerddon, ond ar ben arall y raddfa, 26.1 y cant yn unig yng Nghymru. Felly, pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau yng Nghymru?