Ad-drefnu Ysbytai

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:12, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol ac ysbytai ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddilyn y broses a nodir yn y canllawiau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd ac yn ei annog i sicrhau bod gan y cyhoedd bob cyfle i gymryd rhan yn y broses mewn ffyrdd traddodiadol a ffyrdd llai traddodiadol yn ogystal.