Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuasoch drwy ddweud nad oedd pryderon yn cael sylw digonol, ac rydych yn hollol gywir; mae'n ymddangos i mi nad oedd pryderon preswylwyr Grenfell wedi cael eu clywed, ac roeddent yn codi'r pryderon hynny dros gyfnod hir, a dyna pam ei bod mor bwysig, yn adolygiad Hackitt, fod llais preswylwyr i'w glywed yn gryf iawn fel rhywbeth sydd angen ei ddatblygu. Yn sicr, yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ymgysylltiad da â thenantiaid yn ein sector tai cymdeithasol, felly mae yna lawer y gallwn ei ddysgu o ran sut y gallwn ddatblygu hynny. Fel y gwyddom, o'r dadleuon a gawsom dros ddeddfwriaeth flaenorol, ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), er enghraifft, mae ymgysylltu â thenantiaid yn rhywbeth rwy'n arbennig o awyddus i'w ddatblygu, ac mae adolygiad Hackitt yn dweud wrthym pam fod hynny'n bwysig iawn.
Nodwyd bod y £400 miliwn gan Lywodraeth y DU yn dod o'i chyllidebau adrannol a'i fod ar gyfer y sector tai cymdeithasol yn benodol, felly ni fydd unrhyw arian canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny. Felly, yn yr un modd, roeddem yn gallu dod o hyd i £3 miliwn o fy nghyllideb adrannol er mwyn sicrhau bod Cartrefi Dinas Casnewydd yn gallu newid y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3. Yn benodol, rydym wedi targedu'r arian hwn ar gyfer y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3 hwnnw, sef y cladin a fethodd y profion ar raddfa fawr, ac rydym wedi adlewyrchu'r dull a fabwysiadwyd yn Lloegr.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Fonesig Hackitt wedi ymgysylltu'n dda iawn gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wrth gynhyrchu'r adroddiad, ac fe gefais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ein briffio gan y Fonesig Hackitt y diwrnod cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Ond mae'n destun gofid i ni na chafodd yr adroddiad ei rannu â Llywodraeth Cymru cyn iddo gael ei gyhoeddi. Credaf y byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y ffaith ein bod yn cymryd cymaint o ran yn hyn. Rwy'n sylweddoli mai adroddiad wedi'i anelu at Lywodraeth y DU ydyw, ond yn yr un modd, mae ein cyd-destun mor debyg, ac mae ein hymgysylltiad wedi bod mor rheolaidd, fel y byddai wedi bod yn briodol, rwy'n credu, i ni ei rannu inni allu trafod ein cyhoeddiadau priodol ar yr un diwrnod a rhoi'r math o sicrwydd y maent ei angen i breswylwyr.
O ran adeiladau yn y sector preifat, rwy'n rhannu eich pryder. Unwaith eto, fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, mae pob adeilad yn wahanol, felly bydd yna faterion o gyfrifoldeb a allai fod yn wahanol ym mhob adeilad. Mae'n bosibl bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i adeilad ers iddo gael ei adeiladu, er enghraifft—pwy a wnaeth y newidiadau hynny, beth yw'r gwarantau ac ati? Felly, mae yna amryw o faterion y bydd angen edrych arnynt. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn fod hwn yn gyfnod anodd i breswylwyr o fewn y sector preifat. Cafwyd nifer o achosion llys yn Lloegr a allai roi rhyw syniad i ni o gyfraith achosion, ond unwaith eto, mae hyn yn amrywio o un adeilad i'r llall.
O ran adeiladau newydd, buaswn yn gobeithio y byddwn yn symud yn gyflym iawn o ran dyfodol y gyfundrefn reoleiddio. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio panel arbenigol, a fydd yn ceisio gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r mater hwn yn y dyfodol. Ni fuaswn eisiau unrhyw oedi mewn perthynas â hynny, felly buaswn yn disgwyl i'r grŵp hwnnw adrodd ar y ffordd ymlaen erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, byddai adeiladau newydd yn y dyfodol, yn amodol ar unrhyw newidiadau y byddai angen i ni eu gwneud o ran rheoleiddio ac ati, yn cael eu hadeiladu yn unol â'r safonau newydd hynny.
Yn yr un modd—mae'r adroddiad yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith bod yn rhaid i'r llinyn arian ar gyfer adeiladau newydd fod yn gadarn, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni ddechrau edrych yn ôl ar adeiladau sy'n bodoli eisoes o ran y deunyddiau a ddefnyddiwyd, y newidiadau a wnaed i'r adeiladau hynny ac a yw'r adeiladau'n gyson â'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol yn y cyfnod dylunio hyd yn oed. Felly, rwy'n credu bod gennym lawer o waith i fwrw ymlaen ag ef, a bydd yn llawer o waith dros gyfnod hir, ond yn yr un modd, bydd yn rhaid i ni roi blaenoriaeth ymlaen llaw i'r materion a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch preswylwyr.