3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
2. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân? 180
Diolch. Mae adroddiad y Fonesig Judith, er ei fod yn canolbwyntio ar Loegr, yn rhoi sail gadarn i ni weithio arni yma. Rydym wedi symud yn gyflym i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn a heddiw rwyf wedi cyhoeddi fy mwriad i sefydlu grŵp arbenigol i ddatblygu'r argymhellion yn newidiadau manwl ac ymarferol i Gymru.
A gaf fi groesawu'r ymateb cychwynnol hwnnw? Fel y gwyddoch, daeth yr adolygiad i'r casgliad fod difaterwch ac anwybodaeth wedi arwain at ras i'r gwaelod mewn perthynas ag arferion diogelwch adeiladu, gyda chostau yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch. Dywedwyd hefyd y dylai rheoleiddiwr safonau newydd fod yn ganolbwynt i system ddiwygiedig, ond roedd y sefyllfa mewn perthynas â defnyddio deunyddiau llosgadwy yn aneglur. Mae cynhyrchion inswleiddio a chladin fflamadwy yn cael eu tynnu oddi ar gannoedd o gartrefi uchel iawn yn Lloegr ar hyn o bryd, a rhai yng Nghymru hefyd. Mae'r cyhoeddiad a roddodd Llywodraeth Cymru ddoe y byddai'n ariannu'r gwaith o newid y cladin ar dri bloc tŵr yng Nghasnewydd yn sicr i'w groesawu yn hyn o beth.
Fel y gwyddoch, ar 27 Chwefror, gofynasom am ddatganiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r profion diogelwch cladin mewn adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru. Dylwn ddweud bod yn rhaid i ni gofio'r rheini yn y sector preifat yma, oherwydd gwn y bydd gennych rywbeth penodol iawn i ymateb iddo mae'n debyg o safbwynt y rheini yn y sector cymdeithasol yr ystyrir eu bod mewn perygl. Ond a ydych yn cytuno bod y grŵp hwn angen datrys y sefyllfa'n gyflym iawn? Rydym angen datganiad clir ar gael gwared ar ddeunyddiau cladin fflamadwy, ac yn fy marn i, dylai fod gwaharddiad ar unwaith ar eu defnydd mewn gwaith adeiladu newydd hyd nes y gallwn fod yn gwbl sicr ynglŷn â'u diogelwch a'u defnydd priodol.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Cytunaf â chi fod yr adroddiad yn ddeunydd darllen sobreiddiol iawn ar y newidiadau ac ehangder a dyfnder y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud o ran y system reoleiddiol ar gyfer adeiladau uchel iawn yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar Loegr i raddau helaeth, rydym yn ei gymryd yn y cyd-destun Cymreig hefyd, oherwydd y tebygrwydd amlwg iawn yn ein cyfundrefnau rheoleiddio ar draws y ffin.
Rwy'n falch iawn o allu dweud heddiw, er bod y Fonesig Judith yn fwriadol wedi osgoi gwneud unrhyw sylw ar wahardd unrhyw ddeunyddiau penodol, ein bod yn awyddus i roi sylw i'r mater hwn, ac yn amodol ar ymgynghoriad sy'n ofynnol yn gyfreithiol byddwn yn cymryd camau i wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin ar adeiladau preswyl uchel iawn. Rwy'n dweud 'yn amodol ar ymgynghoriad' oherwydd mae'n un o ofynion Deddf Adeiladu 1984 ein bod yn ymgynghori gyda'r pwyllgor cynghori ar reoliadau adeiladu ynglŷn â hynny. Ond rwy'n gobeithio fy mod yn anfon neges glir iawn heddiw na fyddwn yn croesawu defnydd o'r deunyddiau llosgadwy hyn ar adeiladau yng Nghymru.
Ers trychineb Tŵr Grenfell, rydym wedi gweithio'n galed iawn i gadarnhau lle y mae ein hadeiladau uchel iawn yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt, neu fe wnaethom gryn amser yn ôl, lle rydym wedi llwyddo i nodi pob un o'r adeiladau hynny, ac rydym wedi ymgymryd â dull gwaith achos, gan ddatblygu perthynas unigol rhwng Llywodraeth Cymru a pherchenogion yr adeiladau hynny a landlordiaid yr adeiladau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu'r cyngor diogelwch cywir a manwl sydd ei angen ar yr adeiladau hynny. Yng Nghymru, rydym fymryn yn wahanol i Loegr oherwydd y raddfa yma. Mae gennym ychydig dros 100 o adeiladau uchel iawn, felly rydym wedi gallu ymgymryd â dull gwaith achos, gan gadw'r busnes hwnnw'n fewnol, ond ar draws y ffin yn Lloegr, unwaith eto oherwydd y raddfa, mae'n cael ei arwain ar sail awdurdod lleol. Felly, o ran y cladin a fethodd y prawf a wnaed ar raddfa fawr gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, mae 12 yn y sector preifat yng Nghymru, ac rydym yn gweithio ar hynny gyda'r landlordiaid er mwyn sicrhau bod y cladin yn cael ei dynnu a'i newid. Fel y sonioch chi, ddoe, gallasom ddarparu arian ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd er mwyn newid y cladin yno.
Rhan yn unig o'r darlun yw mynd i'r afael â phroblem cladin. Rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i berchnogion a landlordiaid adeiladau weithio'n agos iawn gydag arbenigwyr er mwyn cynnal adolygiad o ddiogelwch a statws yr adeiladau hynny, oherwydd rydym wedi bod yn glir iawn fod pob adeilad yn adeilad unigol a dylid eu trin felly. Credaf fod hynny'n cael ei gydnabod ym mhennod 8 yn adroddiad Hackitt, sy'n dweud y dylai fod llinyn arian yn rhedeg drwy adeiladau fel y gallwn ddeall, o gysyniad yr adeilad drwy gydol oes yr adeilad, unrhyw newidiadau a wneir i'r adeilad hwnnw. Er bod y Fonesig Hackitt yn glir iawn y dylid ystyried ei hadroddiad yn ei gyfanrwydd, roedd honno'n un o'r penodau a oedd yn sefyll allan i mi fel rhywbeth a all wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd.
Diolch i chi am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Credaf fod angen i ni ofyn a yw'r system yn addas ar gyfer y dyfodol. Roedd yn amlwg yn Grenfell nad oeddent ddigon o ddifrif ynglŷn â risgiau ag y dylent fod a bod diogelwch wedi dod yn ail i'r gost mewn rhai ffyrdd allweddol. Hoffwn ofyn sut y bydd y £400 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer tynnu cladin ac uwchraddio adeiladau yn Lloegr yn effeithio ar Gymru. A fydd unrhyw gyfran o'r arian hwn yn cael ei wario yng Nghymru? Ac os na fydd, a fydd swm canlyniadol Barnett i Gymru? Beth yw'r asesiad diweddaraf o'r gost bosibl i awdurdodau lleol Cymru o newid cladin a chyflawni unrhyw waith uwchraddio diogelwch angenrheidiol? Nodaf eich cyhoeddiad mewn perthynas â Chasnewydd, ond deallaf nad oes unrhyw gyhoeddiad tebyg wedi'i wneud i gynorthwyo cyngor Caerdydd i gyflawni gwaith ar eu chwe bloc tŵr.
A allech chi roi diweddariad i ni ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â blociau tŵr preifat? Gwn eich bod wedi cyfeirio ato'n fras eisoes, ond rydych wedi cyhoeddi canllawiau ac ysgrifennu at awdurdodau lleol yn gofyn iddynt gynnal yr asesiadau angenrheidiol. Felly, beth yw eich barn chi am y problemau y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu a'r rheini mewn datblygiadau preifat yn fwy cyffredinol? Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw gamau gweithredu ar waith mewn perthynas ag anheddau preifat, ar wahân i annog datblygwyr a pherchenogion i beidio â throsglwyddo'r costau. Fodd bynnag, mae'r mater hwn bellach yn y system gyfreithiol ac mae un grŵp o lesddeiliaid wedi cael gorchymyn i dalu'r costau i newid cladin yn Croydon yn hytrach na datblygwr a rhydd-ddeiliad yr adeilad, gyda thrigolion yn wynebu costau o hyd at £25,000 yr un.
Efallai fod hon yn broblem i rai o'r fflatiau yma yng Nghaerdydd, megis Prospect Place, lle y ceir asiantaeth reoli newydd o'r enw Warwick Estates, sef cymdeithas y preswylwyr yn y bôn, oherwydd mae Bellway bellach wedi gadael. Bydd llawer o breswylwyr mewn blociau tŵr preifat yn wynebu ansicrwydd mawr o ran pwy sy'n gyfrifol am waith uwchraddio diogelwch tân, a bydd hyn yn parhau pan ac os cynyddir safonau diogelwch tân yn y dyfodol. Felly, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiadau o'r costau posibl i uwchraddio anheddau preifat yng Nghymru sydd wedi methu unrhyw brofion? A fydd yna arian ar gael ar gyfer y fflatiau cyfredol yn ogystal ag unrhyw adeiladau newydd? Beth fyddai'r gwahaniaeth o ran tacteg mewn perthynas â'r fflatiau cyfredol sy'n bodoli ac unrhyw adeiladau newydd sy'n bodoli?
Hoffwn orffen drwy ddweud fy mod yn bryderus iawn dros y penwythnos ar ôl clywed nad oedd gan rai o'r fflatiau penodol a grybwyllais yn gynharach yn fy nghwestiwn larymau tân ynddynt hyd yn oed, yn y brifddinas hon. A ninnau wedi rhoi'r holl ffocws ar fflatiau a diogelwch, mae'n hurt nad oedd gan y fflatiau hynny larymau tân hyd yn oed. Felly, buaswn yn eich annog i fynd yn ôl i siarad gyda'r landlordiaid preifat yn yr achos hwn a dangos difrifoldeb y sefyllfa, oherwydd bydd bywydau yn y fantol os nad ydynt yn gwella.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuasoch drwy ddweud nad oedd pryderon yn cael sylw digonol, ac rydych yn hollol gywir; mae'n ymddangos i mi nad oedd pryderon preswylwyr Grenfell wedi cael eu clywed, ac roeddent yn codi'r pryderon hynny dros gyfnod hir, a dyna pam ei bod mor bwysig, yn adolygiad Hackitt, fod llais preswylwyr i'w glywed yn gryf iawn fel rhywbeth sydd angen ei ddatblygu. Yn sicr, yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ymgysylltiad da â thenantiaid yn ein sector tai cymdeithasol, felly mae yna lawer y gallwn ei ddysgu o ran sut y gallwn ddatblygu hynny. Fel y gwyddom, o'r dadleuon a gawsom dros ddeddfwriaeth flaenorol, ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), er enghraifft, mae ymgysylltu â thenantiaid yn rhywbeth rwy'n arbennig o awyddus i'w ddatblygu, ac mae adolygiad Hackitt yn dweud wrthym pam fod hynny'n bwysig iawn.
Nodwyd bod y £400 miliwn gan Lywodraeth y DU yn dod o'i chyllidebau adrannol a'i fod ar gyfer y sector tai cymdeithasol yn benodol, felly ni fydd unrhyw arian canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny. Felly, yn yr un modd, roeddem yn gallu dod o hyd i £3 miliwn o fy nghyllideb adrannol er mwyn sicrhau bod Cartrefi Dinas Casnewydd yn gallu newid y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3. Yn benodol, rydym wedi targedu'r arian hwn ar gyfer y cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm categori 3 hwnnw, sef y cladin a fethodd y profion ar raddfa fawr, ac rydym wedi adlewyrchu'r dull a fabwysiadwyd yn Lloegr.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Fonesig Hackitt wedi ymgysylltu'n dda iawn gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wrth gynhyrchu'r adroddiad, ac fe gefais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ein briffio gan y Fonesig Hackitt y diwrnod cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Ond mae'n destun gofid i ni na chafodd yr adroddiad ei rannu â Llywodraeth Cymru cyn iddo gael ei gyhoeddi. Credaf y byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y ffaith ein bod yn cymryd cymaint o ran yn hyn. Rwy'n sylweddoli mai adroddiad wedi'i anelu at Lywodraeth y DU ydyw, ond yn yr un modd, mae ein cyd-destun mor debyg, ac mae ein hymgysylltiad wedi bod mor rheolaidd, fel y byddai wedi bod yn briodol, rwy'n credu, i ni ei rannu inni allu trafod ein cyhoeddiadau priodol ar yr un diwrnod a rhoi'r math o sicrwydd y maent ei angen i breswylwyr.
O ran adeiladau yn y sector preifat, rwy'n rhannu eich pryder. Unwaith eto, fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, mae pob adeilad yn wahanol, felly bydd yna faterion o gyfrifoldeb a allai fod yn wahanol ym mhob adeilad. Mae'n bosibl bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i adeilad ers iddo gael ei adeiladu, er enghraifft—pwy a wnaeth y newidiadau hynny, beth yw'r gwarantau ac ati? Felly, mae yna amryw o faterion y bydd angen edrych arnynt. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn fod hwn yn gyfnod anodd i breswylwyr o fewn y sector preifat. Cafwyd nifer o achosion llys yn Lloegr a allai roi rhyw syniad i ni o gyfraith achosion, ond unwaith eto, mae hyn yn amrywio o un adeilad i'r llall.
O ran adeiladau newydd, buaswn yn gobeithio y byddwn yn symud yn gyflym iawn o ran dyfodol y gyfundrefn reoleiddio. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio panel arbenigol, a fydd yn ceisio gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r mater hwn yn y dyfodol. Ni fuaswn eisiau unrhyw oedi mewn perthynas â hynny, felly buaswn yn disgwyl i'r grŵp hwnnw adrodd ar y ffordd ymlaen erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, byddai adeiladau newydd yn y dyfodol, yn amodol ar unrhyw newidiadau y byddai angen i ni eu gwneud o ran rheoleiddio ac ati, yn cael eu hadeiladu yn unol â'r safonau newydd hynny.
Yn yr un modd—mae'r adroddiad yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith bod yn rhaid i'r llinyn arian ar gyfer adeiladau newydd fod yn gadarn, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni ddechrau edrych yn ôl ar adeiladau sy'n bodoli eisoes o ran y deunyddiau a ddefnyddiwyd, y newidiadau a wnaed i'r adeiladau hynny ac a yw'r adeiladau'n gyson â'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol yn y cyfnod dylunio hyd yn oed. Felly, rwy'n credu bod gennym lawer o waith i fwrw ymlaen ag ef, a bydd yn llawer o waith dros gyfnod hir, ond yn yr un modd, bydd yn rhaid i ni roi blaenoriaeth ymlaen llaw i'r materion a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch preswylwyr.
Yn olaf, ac yn fyr, John Griffiths.
Ie, Weinidog, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn ar gyfer newid y cladin ar y blociau uchel yng Nghasnewydd yn fawr. Pe na bai Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cyllid hwnnw, byddai wedi cael effaith andwyol ar ddatblygiadau newydd angenrheidiol, yn ogystal â gwelliannau i adeiladau sy'n bodoli'n barod ac yn wir, eu hamgylcheddau, felly diolch yn fawr iawn am hynny.
A wnewch chi ymuno â mi, Weinidog, i gydnabod camau gweithredu amserol Cartrefi Dinas Casnewydd mewn ymateb i drychineb ofnadwy Grenfell a'r heriau a achoswyd gan y drychineb honno mewn perthynas ag ôl-osod systemau chwistrellu, ymgysylltu'n agos iawn â thenantiaid ac yn wir, gweithio'n agos iawn â Llywodraeth Cymru?
Diolch yn fawr i chi am hynny, a buaswn yn sicr yn cymeradwyo Cartrefi Dinas Casnewydd ar y gwaith a wnaethant yn syth ar ôl trychineb Grenfell ac ers hynny. Maent wedi rhoi camau gweithredu trylwyr ar waith mewn perthynas â'r adeilad ei hun—felly, cyflwyno'r system chwistrellu, er enghraifft, ond maent hefyd wedi bod yn glir iawn o ran cyfathrebu â thenantiaid. Gwn eu bod wedi curo ar ddrws pob un o'r tenantiaid yn eu tri bloc i siarad â hwy'n unigol er mwyn rhoi sicrwydd iddynt, ond hefyd i roi cyfle i denantiaid ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. Maent hefyd wedi cynnal rhai sesiynau galw heibio, er enghraifft, ac wedi darparu deunydd ysgrifenedig, a gwn fod ein grŵp cynghori ar ddiogelwch tân wedi dweud bod hynny'n rhagorol, ac fe wnaethom rannu hynny gydag eraill i ddangos esiampl o sut y gellir cyfathrebu mater cymhleth, a mater sy'n peri pryder go iawn, mewn ffordd sy'n ddealladwy i'r holl denantiaid ac yn darparu gwybodaeth a chyngor cryf heb achosi braw diangen i'r tenant. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Chartrefi Dinas Casnewydd i siarad â rhai o'r tenantiaid, ac roeddent yn canmol y gwasanaeth a gawsant gan Cartrefi Dinas Casnewydd yn fawr, ac roeddent hefyd yn teimlo bod y system chwistrellu newydd, er enghraifft, yn arwydd gweledol a diriaethol fod eu diogelwch yn cael sylw go iawn.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.