Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny. Cytunaf â chi fod yr adroddiad yn ddeunydd darllen sobreiddiol iawn ar y newidiadau ac ehangder a dyfnder y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud o ran y system reoleiddiol ar gyfer adeiladau uchel iawn yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar Loegr i raddau helaeth, rydym yn ei gymryd yn y cyd-destun Cymreig hefyd, oherwydd y tebygrwydd amlwg iawn yn ein cyfundrefnau rheoleiddio ar draws y ffin.
Rwy'n falch iawn o allu dweud heddiw, er bod y Fonesig Judith yn fwriadol wedi osgoi gwneud unrhyw sylw ar wahardd unrhyw ddeunyddiau penodol, ein bod yn awyddus i roi sylw i'r mater hwn, ac yn amodol ar ymgynghoriad sy'n ofynnol yn gyfreithiol byddwn yn cymryd camau i wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin ar adeiladau preswyl uchel iawn. Rwy'n dweud 'yn amodol ar ymgynghoriad' oherwydd mae'n un o ofynion Deddf Adeiladu 1984 ein bod yn ymgynghori gyda'r pwyllgor cynghori ar reoliadau adeiladu ynglŷn â hynny. Ond rwy'n gobeithio fy mod yn anfon neges glir iawn heddiw na fyddwn yn croesawu defnydd o'r deunyddiau llosgadwy hyn ar adeiladau yng Nghymru.
Ers trychineb Tŵr Grenfell, rydym wedi gweithio'n galed iawn i gadarnhau lle y mae ein hadeiladau uchel iawn yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt, neu fe wnaethom gryn amser yn ôl, lle rydym wedi llwyddo i nodi pob un o'r adeiladau hynny, ac rydym wedi ymgymryd â dull gwaith achos, gan ddatblygu perthynas unigol rhwng Llywodraeth Cymru a pherchenogion yr adeiladau hynny a landlordiaid yr adeiladau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu'r cyngor diogelwch cywir a manwl sydd ei angen ar yr adeiladau hynny. Yng Nghymru, rydym fymryn yn wahanol i Loegr oherwydd y raddfa yma. Mae gennym ychydig dros 100 o adeiladau uchel iawn, felly rydym wedi gallu ymgymryd â dull gwaith achos, gan gadw'r busnes hwnnw'n fewnol, ond ar draws y ffin yn Lloegr, unwaith eto oherwydd y raddfa, mae'n cael ei arwain ar sail awdurdod lleol. Felly, o ran y cladin a fethodd y prawf a wnaed ar raddfa fawr gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, mae 12 yn y sector preifat yng Nghymru, ac rydym yn gweithio ar hynny gyda'r landlordiaid er mwyn sicrhau bod y cladin yn cael ei dynnu a'i newid. Fel y sonioch chi, ddoe, gallasom ddarparu arian ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd er mwyn newid y cladin yno.
Rhan yn unig o'r darlun yw mynd i'r afael â phroblem cladin. Rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i berchnogion a landlordiaid adeiladau weithio'n agos iawn gydag arbenigwyr er mwyn cynnal adolygiad o ddiogelwch a statws yr adeiladau hynny, oherwydd rydym wedi bod yn glir iawn fod pob adeilad yn adeilad unigol a dylid eu trin felly. Credaf fod hynny'n cael ei gydnabod ym mhennod 8 yn adroddiad Hackitt, sy'n dweud y dylai fod llinyn arian yn rhedeg drwy adeiladau fel y gallwn ddeall, o gysyniad yr adeilad drwy gydol oes yr adeilad, unrhyw newidiadau a wneir i'r adeilad hwnnw. Er bod y Fonesig Hackitt yn glir iawn y dylid ystyried ei hadroddiad yn ei gyfanrwydd, roedd honno'n un o'r penodau a oedd yn sefyll allan i mi fel rhywbeth a all wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd.