8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Dechrau'n Deg: Allgymorth'

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 7:00, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd cysylltiadau cyffredinol wedi'u trefnu gan ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol Plant Iach Cymru ar gyfer pob plentyn rhwng dim a saith oed ar gael ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Hydref, gyda gwell ymyriadau dwys yn cael eu darparu i'r teuluoedd a'r plant sydd â lefelau uwch o angen. Ac wrth gwrs, fel y gwyddom, mae pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at y cyfnod sylfaen, ac mae ein cynnig gofal plant i rieni sy'n gweithio i blant tair a phedair oed yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd. Nod pob un—pob un—o'n rhaglenni blynyddoedd cynnar yw cefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau, ond rydym am fynd ymhellach.

Nawr, gan adlewyrchu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol, mae rhaglen eang o waith yn mynd rhagddi i archwilio sut y gallwn greu'r un system blynyddoedd cynnar gydlynol honno ar y lefel genedlaethol a lleol. Felly, rydym yn gweithio drwy brosiect dwys a luniwyd ar y cyd gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf i archwilio'r opsiynau ar gyfer ad-drefnu'r system ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Byddwn yn dysgu ohono, a byddwn yn datblygu ac yn rhannu'r syniadau ynglŷn â hyn yn ehangach maes o law.

Fel y dywedais, mae Dechrau'n Deg yn elfen allweddol o'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth hon. Felly rwy'n croesawu'n gynnes iawn y penderfyniad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal yr ymchwiliad i allgymorth Dechrau'n Deg. Ni allaf fynd drwy fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn yr amser sydd ar gael, ond mae'n nodi fy ymateb manwl i saith argymhelliad yr adroddiad, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi derbyn pob un ond un ohonynt yn llawn neu yn rhannol.

Gadewch imi droi at hynny, oherwydd mae ychydig o bobl wedi sôn amdano, ac mewn gwirionedd, roedd ganddynt wahanol safbwyntiau arno, yn rhyfedd iawn. Oherwydd roedd argymhelliad 6 yn gofyn am fonitro ychwanegol—adroddiadau monitro rheolaidd—yn rhoi manylion unrhyw ddiwygiadau i'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ni allem gytuno i hyn—fe wnaethom ei ystyried, ond ni allem gytuno iddo—mwy o adroddiadau monitro ar ddargyfeirio rhanbarthol posibl mewn dulliau ymyrryd yn sgil yr hyblygrwydd ychwanegol rydym yn ei roi yn awr am fod awdurdodau lleol wedi gofyn am yr hyblygrwydd ychwanegol hwnnw. Roeddent hefyd yn gofyn ar yr un pryd, 'A wnewch chi beidio â chynyddu'r baich arno tra byddwch wrthi? A allwn gael yr hyblygrwydd a gadewch inni fwrw ymlaen â hynny?' Felly, ein hymrwymiad yw lleihau yn hytrach na chynyddu'r baich adrodd ar awdurdodau lleol. Dros y 12 i 18 mis diwethaf, buom yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny i leihau a symleiddio'r data er mwyn lleihau'r baich, gan ganolbwyntio ar y data yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gynhyrchu bwletin ystadegol blynyddol Dechrau'n Deg. Ond yn lle hynny, rwyf wedi cytuno i ymdrin â hyn fel rhan o'n diweddariad gwerthuso nesaf i'r pwyllgor, iawn, felly byddwn yn dychwelyd at hynny.

Nawr, mae Dechrau'n Deg dros ddeng mlwydd oed. Mewn rhai mannau, fel fy ardal i, ceir enghreifftiau o fannau lle mae'n 13 oed, bron yn 14 oed. Felly, mae'n amser da i fyfyrio ar ei lwyddiannau niferus yn ogystal ag adolygu'r dirwedd blynyddoedd cynnar bresennol, lle mae'r rhaglen yn chwaraewr allweddol. Yn wir, ar ddiwedd 2017, cytunais y dylai fy swyddogion gynnal adolygiad o Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas at y diben wrth inni symud ymlaen at ei ail ddegawd.

Rydym am adeiladu ar lwyddiannau sylweddol y rhaglen a dysgu o'r hyn sy'n gweithio, nid yn lleiaf sut y gallwn ddyfnhau'r bartneriaeth, cydweithio a'r gwaith amlasiantaethol ar draws sectorau i gefnogi plant ifanc a'u teuluoedd. Rhan sylfaenol o hyn yw'r angen i weithio gyda'r rhai ar lawr gwlad sy'n darparu Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau bod eu harbenigedd, eu profiad, yn rhan o'r adolygiad hwn. Mae'n hanfodol fod unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried yn llawn ac yn drwyadl a'u rheoli'n dda, er mwyn inni ddysgu o'r mannau lle mae'n gweithio'n dda a datblygu modelau o arferion da i'w rhannu'n ehangach. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar hyn, ac rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yr adolygiad hwn yn ddiweddarach eleni.

Mae ymchwiliad ac adroddiad y pwyllgor, felly, yn amserol iawn ac yn gwneud cyfraniad defnyddiol i'r adolygiad ehangach hwn. Mae eich canfyddiadau wedi darparu cipolwg defnyddiol ar elfen benodol allgymorth, sy'n rhan bwysig o'r hyn sy'n gwneud Dechrau'n Deg yn rhaglen hanfodol. Ar yr elfen allgymorth honno, er bod yr uwchraddio—yr estyniad—i 5 y cant wedi digwydd yn ystod proses y pwyllgor, credaf y bydd yn rhaid inni edrych ar ba mor dda y mae gwahanol ardaloedd yn ei ddefnyddio, ac a ydynt yn ei ddefnyddio'n llawn yn ogystal. John, mae eich pwynt yn ddiddorol—credaf ei bod hi'n werth mynd yn ôl, ac edrych ar ardaloedd unigol, a dylai Aelodau fynd yn ôl a dweud, 'Sut rydym yn defnyddio hyn yn lleol? Sut rydym yn cyflawni'r hyblygrwydd a roddwyd gan y Gweinidog?'

Ond mae'r elfen allgymorth yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol allu darparu cefnogaeth i blant a'u teuluoedd a grwpiau a dargedwyd gydag angen a nodwyd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg dynodedig. Ac mae hefyd yn darparu parhad yn y cymorth i blant a theuluoedd sy'n symud allan o'r ardaloedd hynny, neu i bontio'r bwlch i dderbyn gwasanaethau eraill a ddarperir.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd—diolch yn fawr—byddwn yn defnyddio'r adolygiad o Dechrau'n Deg a'r gwaith i ad-drefnu'r system blynyddoedd cynnar i archwilio'r opsiynau sydd ar gael mewn perthynas ag allgymorth. Bydd argymhellion y pwyllgor yn ffurfio rhan o'r gwaith hwn, a rhaid i'n hadolygiad, gan gynnwys unrhyw hyblygrwydd pellach yn ymwneud ag allgymorth, fod yn seiliedig ar y cydweithio dwfn hwn gydag awdurdodau lleol, gan ddysgu o ymarfer da a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas ag uniondeb cyffredinol y rhaglen nodedig hon sydd ag enw mor dda yn rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn.