Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 23 Mai 2018.
Rydw i'n mynd ar ôl trywydd nid anhebyg, o safbwynt y dynfa sydd yma, ac rydw i'n meddwl yn ei hanfod dyna roeddwn i'n ymrafael â hi yn yr adroddiad yma, sef y dynfa yma rhwng sut rydych chi'n ffocysu adnoddau er mwyn cael yr impact gorau. Rŷm ni'n gweld hyn nid dim ond o ran Dechrau'n Deg ond mewn rhaglenni eraill. A ydych chi'n cyfyngu'r gefnogaeth i ardaloedd daearyddol penodol neu a ydych chi'n targedu demograffig neu grŵp penodol o bobl lle bynnag maen nhw'n byw? Yn ei hanfod—ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddadl, rwy'n credu—dyna oedd yr hyn yr oeddwn i'n trio ymrafael ag ef. Ac mae'n rhaid i fi ddweud, a chytuno â'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd ar y dechrau—y siom fwyaf ges i oedd cyn lleied oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth mewn rhai awdurdodau lleol. Hynny yw, mi gyfeiriwyd at un awdurdod lleol lle dim ond pump o blant a oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth. Os ydych hi'n mynd i drio gwneud hyn ddwy ffordd, a chael rhyw fath o gydbwysedd, yna byddwn i'n disgwyl gwell cydbwysedd yn dod yn sgil hynny, oherwydd mae'r elfen allgymorth yma i fod yn ffordd i newid y cydbwysedd yna, i fynd i'r afael â'r diffyg cydbwysedd, ac, yn amlwg, mewn rhai ardaloedd nid yw hynny, efallai, ddim yn digwydd fel y byddwn i'n dymuno. Ac fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mae dwy ran o dair o bobl sydd ag anawsterau incwm yn byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, felly mae yna wendid clir yn hynny o beth.
Mae'n ffaith bod y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi cynyddu'r cap ar wariant allgymorth, lan i 5 y cant o'r gyllideb, yn ystod yr ymchwiliad, ac mae hynny yn ei hun, rydw i'n meddwl, wedi bod yn gyfaddefiad ar ran y Gweinidog a'r Llywodraeth nad oedd y cydbwysedd, efallai, fel y dylai fod, ac nad oedd e'n iawn, nad oedd e'n addas, ac efallai nad oedd e'n ddigonol. Ac mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn holi'r cwestiwn ynglŷn â'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Iawn, os ydych chi'n derbyn efallai bod eisie newid y cydbwysedd, pam 5 y cant? Pam ddim 7 y cant neu 10 y cant? Ac rydw i'n gwybod eich bod wedi cyfeirio, os ydw i'n cofio'n iawn, at y ffaith mai dyna'r ffigur sy'n gallu cael ei 'vire-o' o un rhaglen i'r llall, ond rydw i'n meddwl bod angen inni gael gwell rationale sy'n seiliedig, efallai, ar yr awgrym o beilota neu dreialu neu drio gwahanol fodelau mewn ardaloedd gwahanol, fel ein bod ni â'r hyder bod y model yna neu'r ffigur yna yn addas.
Weithiau, mae'n rhaid inni dderbyn, er mor crude yw ffiniau daearyddol, gydag ychydig o dechnegau, efallai, i drio meddalu ychydig ar y ffiniau yna, efallai bod yn rhaid inni jest derbyn nad yw e'n berffaith ond efallai taw dyna'r gorau sydd gennym ni. Yn sicr, rydw i'n teimlo taw dyna'r consensws gyda rhywbeth fel y grant datblygu disgyblion, y PDG. Mae ambell un wedi dweud bod seilio hwnnw ar bwy sy'n gymwys, (a), i gael cinio am ddim yn rhy crude, a ddim yn ddigon clyfar, efallai, ond pan ŷch chi'n gofyn beth a ddaw yn ei le—wel, mae pawb yn edrych ar ei gilydd ac yn dweud, 'Wel, ie, efallai taw hynny yw'r gorau sydd gyda ni', ac weithiau, efallai, mae'n rhaid inni dderbyn hynny. Ond heb y rationale yna y tu ôl i'r 5 y cant, rydw i'n dal yn stryglo i deimlo ei fod e ddim yn ffigur sydd jest wedi cael ei bigo mas o'r awyr. Ac rydw i'n sicr eisie gweld mwy o impact na'r hyn rŷm ni wedi'i weld yn y gorffennol.
Nawr, rydw i yn cael fy nghalonogi gan rai agweddau ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion, yn enwedig y sôn am yr ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i greu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol, a fydd yn rhoi lle canolog i anghenion unigryw pob plentyn. Felly, mae rhywbeth yn fanna, rydw i'n meddwl. A byddwn i'n licio clywed y Gweinidog yn ymhelaethu, efallai, ar yr hyn y mae e'n ei olygu pan mae e'n sôn am greu un system ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy'n lleol ac yn genedlaethol, ond hefyd fod pob gwasanaeth yn cydweithio, yn tynnu i'r un cyfeiriad. Byddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ac mae'n bosib, o gael hynny'n iawn, fod hynny yn ei hun yn rhoi ychydig mwy o hyblygrwydd o safbwynt y modd mae'r gwasanaethau yma'n cael eu gwasgaru dros ardaloedd ehangach. Os ydy pawb yn tynnu i'r cyfeiriad, yna efallai bod gan bawb bach mwy o hyder i wthio'r ffiniau yna, yn hytrach na jest dibynnu ar y ffiniau daearyddol.
Rŷch chi hefyd yn sôn am broject cydadeiladu dwys gyda dau fwrdd gwasanaethau cyhoeddus sydd yn mynd i edrych ar yr opsiynau. Wel, mae hynny'n swnio tamaid bach fel cyfle i beilota gwahanol approaches. Felly, fe wnaf i gyfyngu fe sylwadau i hynny, rydw i'n meddwl, oherwydd mae'r cloc yn fy nghuro i. Ond rydw i'n dod nôl at y pwynt yma: yng nghalon yr adroddiad yma mae'r ddadl yma ynglŷn â ble rŷm ni'n taro'r cydbwysedd. Nid oedd yna dynfa yn ôl at lynu'n dynnach at ffiniau daearyddol yn y dystiolaeth. Nid oedd yna dynfa, a bod yn onest, oherwydd mae yna faterion yn ymwneud â stigma ac yn y blaen, i fynd yn llwyr i'r cyfeiriad arall. Y cwestiwn i fi yw: ble mae'r cydbwysedd yna yn cael ei daro?