Part of the debate – Senedd Cymru am 7:22 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch, Nick, hefyd. Mae'n dda gen i gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon. Un o bleserau—one of the pleasures—bod yn Weinidog plant yw cael cwrdd â phlant a'u rhieni ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o rieni—fel fi a chi hefyd, Nick, ac eraill—am sicrhau'r gorau posib i'w plant, a'u bod yn gweithio'n galed i'w cefnogi.