– Senedd Cymru am 7:11 pm ar 23 Mai 2018.
A symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Nick—. [Torri ar draws.] Os ydych yn mynd allan o'r Siambr, a wnewch chi fynd, os gwelwch yn dda, yn gyflym, neu byddaf yn gofyn i chi aros i wrando ar y ddadl fer? Galwaf yn awr ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc a ddewisodd. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod wedi dechrau cynllunio'r ddadl fer hon cyn i fy sefyllfa dadol fy hun newid, felly nid wyf wedi fy nghymell yn llwyr gan hunan-les wrth ddod â rhai o'r materion hyn i'r Siambr heddiw?
Yn bennaf hoffwn siarad â chi heddiw am brosiect Dads Can yn ne-ddwyrain Cymru, y deuthum yn ymwybodol ohono gyntaf pan ymwelais â phencadlys Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gynharach eleni a chael cyfle i gyfarfod â'r staff rhagorol ac ymroddedig sy'n gweithio yno. Cefais fy nghyflwyno gan un o'r rheini, Katie Double, Cydlynydd Dads Can, i'r prosiect, ei obeithion, ei nodau a'i hanes llwyddiannus. Mae Katie yn ymgyrchydd brwd dros dadau ym mhobman a gwn fod—gallaf eich gweld yn codi llaw, oes—mae aelodau eraill o dîm Dads Can tai Sir Fynwy yn yr oriel heddiw, felly diolch i chi am ddod. A gaf fi ddweud hefyd nad yw hyn yn ymwneud â bychanu'r holl gymorth angenrheidiol sydd ar gael i famau? Mae'n ymwneud â llenwi bwlch mewn gwasanaethau cymorth lle y teimlwn fod bwlch yn bodoli. Gydag ystadegau'n dangos mai dynion yw tri chwarter yr achosion o hunanladdiad, fod un o bob tri phlentyn yn tyfu i fyny heb dad, fod cyfraddau ysgaru'n costio oddeutu £1,500 y flwyddyn i bob trethdalwr, a bod pobl ifanc 15 oed yn fwy tebygol o fod yn berchen ar ffôn clyfar na thad yn y cartref heddiw, mae Dads Can yn gwneud llawer i gynorthwyo teuluoedd i ddod yn fwy sefydlog ac yn fwy cydgysylltiedig.
Yn bennaf, nod y prosiect yw ymdrin ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau a brofir gan dadau drwy eu helpu i gael dyfodol mwy disglair a dod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant. Mae Dads Can yn lleihau effaith digwyddiadau trawmatig a brofir gan deuluoedd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn creu mwy o risg i ddatblygiad plant yn y dyfodol, ac felly mae'r prosiect yn canolbwyntio ar dorri'r cylch hwn rhwng cenedlaethau drwy gymorth emosiynol ac ymgorffori newid ymddygiad cadarnhaol. Mae'r prosiect yn defnyddio dull hyfforddi i gynorthwyo tadau i nodi atebion i broblemau a wynebant fel diffyg hunan-barch, salwch meddwl, perthynas yn chwalu, mynediad at blant a dewisiadau ffordd o fyw negyddol. Cafodd rhwydwaith o gymorth ei greu drwy fentora gan gyfoedion, modelau rôl, eiriolaeth a threfnu perthynas â darparwyr cymorth lleol. Maent hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad a chyfleoedd i ddefnyddio rhaglenni cyfoethogi teuluoedd.
Mae'r amserau'n newid: disodlwyd mathau traddodiadol o wrywdod o blaid cymdeithas fwy cyfartal. Fodd bynnag, mewn sawl maes, cafodd rôl y tad ei hanwybyddu'n aml. Drwy ddarparu cymorth mewn amgylcheddau diogel ac anfeirniadol, gall tadau fod yn fwy agored a thrafod eu problemau, rhywbeth nad ydynt yn gyfforddus yn ei wneud mewn fforymau eraill. Bellach, o ganlyniad i'r ffaith bod gwasanaethau yn ddealladwy yn aml yn canolbwyntio ar y fam, gall rhai tadau deimlo'n ynysig yn ystod blynyddoedd cynnar eu plentyn, felly nid yw'n syndod darganfod bod chwarter y tadau'n profi iselder yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac anaml iawn y gwneir diagnosis ohono. Caiff gwasanaethau blynyddoedd cynnar eu darparu'n bennaf gan fenywod, gan greu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar fenywod—unwaith eto, mae'n ddealladwy ar lawer ystyr, ond mae'n golygu bod rhai tadau yn ei chael hi'n anodd camu i mewn i'r amgylchedd hwnnw. Mae gwaith Dads Can yn cyd-ddarparu rhai o'r sesiynau hyn yn golygu bod tadau wedi cymryd rhan yn effeithiol yn y rhaglenni hyn.
Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni cyfreithwyr lleol sydd wedi darparu dros £30,000 o gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth pro bono i dadau yn fy etholaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae chwarter y tadau sy'n gysylltiedig wedi ennill neu wella mynediad at eu plant dros y flwyddyn ddiwethaf, diolch i'r fenter. Mae Dads Can wedi cael ymholiadau o bob rhan o dde Cymru a hyd yn oed mor bell â Llundain. Daeth yn amlwg, pan fo tadau'n teimlo nad oes ganddynt unman arall i droi, eu bod yn aml yn troi at Dads Can. Os caf fynd drwy rai o'r ystadegau—dim ond ychydig: mae 94 y cant o dadau wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus ac yn cael cefnogaeth well oherwydd y cynllun; mae 84 y cant yn teimlo bod ganddynt allu gwell i ddylanwadu ar eu dyfodol a rheoli newid; a bellach mae 79 y cant wedi ymgysylltu'n effeithiol â darparwyr eraill oherwydd ymyrraeth y prosiect yn Tai Sir Fynwy.
Mae'r gwaith nid yn unig yn rhoi help llaw i dadau a'u teuluoedd, ond hefyd treulir llawer o amser yn cynnal sesiynau grwpiau mentora gan gymheiriaid yn y gymuned, yn cefnogi mentrau eraill megis datblygu safleoedd ysgol y goedwig, yn gwneud tasgau fel garddio ar gyfer y gymuned, a hefyd yn adfer coetiroedd hanesyddol, drwy godi waliau cerrig, er enghraifft, yn Nyffryn Gwy. Yn wir, yn ystod fy ymweliad mwyaf diweddar â'r tîm, roeddwn gyda grŵp o dadau a'u plant a oedd yn plannu planhigion ar fferm ychydig y tu allan i'r Fenni. Fe fûm yn gwneud ychydig o arddio fy hun, ond oherwydd fy mod yn gwisgo siwt, roedd yn edrych yn gwbl amhriodol ac os meiddiaf ddweud, braidd yn naff. Os ydych yn pendroni beth oedd y staeniau pan ddeuthum i'r Cynulliad wedyn, roeddent yn deillio o fy mhrofiad garddio. Y tro nesaf, byddaf yn mynd â jîns a welintons.
Dyma rai pethau y mae tadau a phartneriaid wedi dweud am y cynllun. Dyma Dawn Moore, yn gyntaf oll, o'r gwasanaethau integredig cymorth i deuluoedd:
Roeddwn yn teimlo bod Dads Can yn brosiect defnyddiol iawn ar gyfer tadau nad ydynt yn gwybod lle i ddechrau gyda chymorth ac sy'n aml yn amharod i ofyn am gymorth. Mae cael gwasanaeth pwrpasol ar gyfer tadau yn helpu i oresgyn stigma, mae'n eu cynorthwyo i gysylltu â gwasanaethau eraill, ac yn y pen draw mae'n sicr yn helpu i'w cynorthwyo i fod yn well tadau i'w plant.
Kay Perrott, o gwmni cyfreithwyr ETLP:
Heb brosiect fel hwn caiff llawer o dadau eu gadael heb unman i droi a heb y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt yn daer.
A dywedodd un o'r tadau, Ben Beynon:
Mae'r sefydliad hwn yn golygu cymaint i mi. Oni bai am Dads Can ni fyddai gennyf neb i siarad â hwy'n gyfrinachol i gael cefnogaeth foesol ac emosiynol.
Cafodd y cynllun ei gydnabod yn ddiweddar yn sgil y gwahaniaeth y mae ei gynnydd wedi'i wneud ar draws ardal Gwent drwy gael ei ddewis ar gyfer rownd derfynol gwobrau tai y DU ar gyfer 2018 yn y categori cyflawniad rhagorol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mewn gwirionedd, cafodd y ddadl hon ei gohirio ers ei slot blaenorol am fy mod yn gwybod bod y tîm cyfan yn Llundain ar gyfer y digwyddiad hwnnw ar ôl cael ei enwebu ar ei gyfer. Felly, dyna oedd y rheswm pam y cafodd ei gohirio. Rhoddodd newyddion ITV sylw i'r stori yn ddiweddar hefyd ac roeddwn yn falch o roi cyfweliad iddynt am fy mhrofiadau'n siarad â'r tîm a hefyd yn siarad â'r tadau sydd wedi cael cymaint o gefnogaeth ganddo.
Felly, mae'r prosiect wedi mynd o nerth i nerth mewn cyfnod byr iawn. Mae wedi bod yn llwyddiant aruthrol hyd yn hyn, ac rwyf wedi bod yn falch o fod yn rhan o hynny, ond beth am y dyfodol? A dyma lle y dowch chi i mewn, Weinidog. Yn ogystal â bod wedi siarad â chi eisoes am y cynllun—'O na', mae'n dweud—hyd yn hyn, gwn eich bod wedi bod yn gadarnhaol tuag ato. Mae un neu ddau o bethau yr hoffwn ofyn i chi wrth gloi'r ddadl fer hon. Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect i ben ddechrau'r gwanwyn nesaf. Mae cais ar gyfer rhaglen olynol yn yr arfaeth, rhaglen o'r enw Family Man—nid Family Guy, prysuraf i ychwanegu, ond Family Man. Mae hwnnw, rwy'n credu, eisoes yn edrych fel pe bai'n mynd i fod yn brosiect cadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol ac yn olynydd rhagorol i'r hyn a welsom hyd yn hyn. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn ichi edrych yn ffafriol ar raglenni olynol i brosiectau fel Dads Can fel y gellir cadw manteision cadarnhaol y ddwy flynedd ddiwethaf wrth symud tua'r dyfodol?
Hefyd, credaf y byddai'n fuddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar yr arfer da sydd wedi'i gyflawni a'i ddatblygu yn fy rhan i o'r wlad, fel y gall ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd elwa ar y mathau hyn o brosiectau, prosiectau olynol a chynlluniau tebyg, ym mha ffurf bynnag y bydd rhannau eraill o Gymru am ystyried eu gweithredu o bosibl.
I gloi, Lywydd, mae wedi bod yn bleser cymryd rhan yn y prosiect hwn hyd yma. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei lwyddiant yn parhau ac y gallwn fwrw yn ein blaenau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar dadau a'u plant yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol.
Ni'ch clywais yn nodi eich bod yn rhoi munud i unrhyw un. A wnaethoch chi roi munud i rywun?
Do—Neil McEvoy. Rwy'n dal am roi munud o'r ddadl iddo.
Neil, iawn. Ie. Neil McEvoy, felly, un funud.
Diolch. Ie, ond hoffwn longyfarch y rhai sy'n rhan o'r prosiect i fyny yno a Nick hefyd am roi sylw i hyn fel dadl fer. Credaf fod bylchau enfawr yn y ddarpariaeth. Rwy'n cael dynion yn fy swyddfa wedi'u trawmateiddio gan nifer o ddigwyddiadau y maent yn mynd drwyddynt. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer y dynion hynny, yn enwedig y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, am nad oes unman iddynt droi. Mae llawer ohonynt wedi'u cau allan o fywydau eu plant. Bydd ysgolion fel mater o drefn yn gwahardd tadau—fel mater o drefn—nid ydynt yn cael llythyrau ysgol, nid ydynt yn gwybod pryd mae'r cyngherddau, nid ydynt yn gwybod pryd y cynhelir nosweithiau rieni. Yn yr un modd, bydd meddygfeydd fel mater o drefn yn gwahardd dynion ac yn gwrthod rhoi gwybodaeth iddynt am eu plant, ac mae rhai adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwneud hynny yn ogystal. Mae hyn yn gwbl ffeithiol, ar sail gwaith achos go iawn a phrofiad. Buaswn yn dweud bod llawer o wahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn erbyn tadau.
Fe ddywedaf hyn yn awr gyda sylw personol iawn ynglŷn â'r ffaith fy mod i'n dad hefyd. Cefais fy magu yn y 1970au ar ystâd dai cyngor a fi oedd yr unig wyneb brown yn y lle yn y dyddiau hynny, a deuthum i arfer â chael fy ngalw'n rhai pethau a chael fy nhrin mewn ffordd benodol. Ac yn fy mywyd fel oedolyn, fe ddeuthum i arfer â chael fy nhrin, fel y dywedais, mewn ffordd benodol, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd gwaith. Ond mae'r hyn a brofais fel tad yn gwneud i oes gyfan o hiliaeth bylu'n ddim gyda'r gwahaniaethu rwyf wedi'i wynebu yn syml am fy mod yn dymuno bod yn dad. Felly, rwy'n wirioneddol falch fod Nick wedi rhoi sylw i hyn. Hoffwn ddiolch, mewn gwirionedd, i'r rhai sydd i fyny yno'n ymgyrchu ac yn cyflawni'r mathau hyn o brosiectau.
Mae prosiectau fel hyn angen arian yn enbyd ac mae gennych elusennau eraill, fel Both Parents Matter; maent yn gwneud gwaith gwych. Mae angen inni ddechrau trafod gwerth tadau a'r gallu i dadau i chwarae rolau ym mywydau eu plant heb y rhagfarn rwy'n dod ar ei draws weithiau yn yr adeilad hwn. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch, Nick, hefyd. Mae'n dda gen i gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon. Un o bleserau—one of the pleasures—bod yn Weinidog plant yw cael cwrdd â phlant a'u rhieni ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o rieni—fel fi a chi hefyd, Nick, ac eraill—am sicrhau'r gorau posib i'w plant, a'u bod yn gweithio'n galed i'w cefnogi.
Nawr, mae'r pwyntiau a wnaethoch yn awr am bwysigrwydd cefnogi tadau yn eu rôl yn rhai da iawn. Bydd y sefydliad Dads Can yn falch fod ganddynt hyrwyddwr yma yn Senedd Cymru i dynnu sylw at eu cyflawniadau, i ddathlu eu gwaith yn Senedd Cymru ac i ddadlau hefyd, fel rydych newydd ei wneud, dros eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn ogystal. Mae'n hyfryd eu cael yn yr oriel yma heno.
Nawr, gwyddom fod rhieni'n dod o lawer o wahanol gefndiroedd, diwylliannau, credoau—daw teuluoedd ar ffurfiau niferus a gwahanol ac amrywiol. Ond mae'r ymchwil yn dweud wrthym am un peth pwysig iawn sydd ganddynt yn gyffredin sef mai hwy yw'r dylanwad mwyaf ar fywydau eu plant. Dengys y dystiolaeth hefyd yn wir y gall tadau sydd â diddordeb ac sy'n gefnogol i'w plant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w canlyniadau. Mae'r plant hyn yn fwy tebygol o weld datblygiad iaith gwell, cyrhaeddiad addysgol uwch, llai o broblemau ymddygiadol ac yn gyffredinol maent yn fwy gwydn. Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth wedi dangos arwyddocâd ysgogiad cadarnhaol a meithringar gan famau a thadau yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf o ddatblygiad yr ymennydd. Ac yn ystod eu blynyddoedd ysgol, mae cyfranogiad tad yn effeithio'n fawr ar gyflawniadau a dyheadau plentyn.
Mae gan dadau a mamau cefnogol rôl allweddol fel clustog rhag adfyd. Heb ffactorau amddiffynnol a chymorth gan riant cryf a meithringar, gallai profiadau trawmatig llawn straen sy'n digwydd yn ystod plentyndod—y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y cyfeiriodd Nick atynt yng ngwaith Dads Can—achosi problemau ar unwaith yn gynnar mewn bywyd ac yn ddiweddarach gydol oes.
Ac mae perthynas cyplau, pa un a yw rhieni gyda'i gilydd neu ar wahân a dweud y gwir, hefyd yn ffactor pwysig. Pan na chaiff gwrthdaro rhwng rhieni ei ddatrys, gall greu risg i iechyd meddwl a chyfleoedd bywyd hirdymor y plentyn, ond rydym hefyd yn gwybod pan gaiff ei drin yn dda, caiff yr effeithiau niweidiol eu lleihau. Dyna pam y mae cefnogi teuluoedd a rhianta yn ganolog i'n hagenda fel Llywodraeth. Ac fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, un o'r pum maes blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth 'Ffyniant i Bawb' yw'r blynyddoedd cynnar. Ac yn allwedd i hyn mae rôl pob rhiant—mamau a thadau. Rydym am i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, i gyrraedd eu potensial a byw bywyd iach, ffyniannus, boddhaus. Felly, y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi ymrwymo £325,000 tuag at gefnogi ein hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch amser iddo', ac mae'r ymgyrch yn darparu gwybodaeth o ansawdd da i helpu rhieni i ddatblygu sgiliau rhianta cadarnhaol, drwy'r wefan, Facebook, hysbysebu digidol ac amrywiaeth o ddeunyddiau. Ac nid ydym yn dweud wrth rieni, gyda llaw, sut i fagu eu plant; yr hyn a wnawn yw hyrwyddo strategaethau rhianta cadarnhaol a darparu awgrymiadau hyd yn oed ar gyfer ymdrin â materion penodol fel strancio plant bach—mae pawb ohonom wedi eu cael; fel rhiant fy hun—hyfforddiant toiled, ac ati ac ati. A gwyddom fod y dystiolaeth yn dangos y gall cymorth rhianta roi dealltwriaeth well i famau a thadau ynglŷn â datblygiad y plentyn a rhoi syniadau ar sut i ganmol a gwobrwyo eu plentyn, sut i osod ffiniau, sut i ymdrin â chamymddwyn, a heb orfod troi, rhaid i mi ddweud, at gosbi corfforol.
Mae cynorthwyo unigolion i fabwysiadu dulliau rhianta cadarnhaol yn rhan annatod o'n rhaglenni Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Ond weithiau, mae rhieni'n methu byw gyda'i gilydd, ac rydym yn gwybod bod rhieni'n gwahanu yn effeithio ar lawer o blant a'u teuluoedd ledled Cymru. Mae achosion cyfraith breifat sy'n ymwneud â rhieni'n gwahanu yn aml yn cynnwys anghydfod ynglŷn â threfniadau sy'n gysylltiedig â'r plentyn—er enghraifft, ble y dylai plentyn fyw a phwy y dylai ef neu hi ei weld. Mae'n bwysig fod teuluoedd yn cael cymorth pan fydd rhieni'n gwahanu er mwyn eu helpu i barhau i ganolbwyntio ar anghenion eu plentyn yn hytrach na'r anghydfod rhyngddynt hwy. Ac mae'n rhaid rhoi'r sylw canolog i'r plentyn ym mhopeth bob amser. Rydym yn cefnogi'n llwyr yr egwyddor fod gan blentyn hawl i gael perthynas ystyrlon gyda'r ddau riant ar ôl i deulu wahanu lle mae'n ddiogel ac er budd y plentyn. Ac mae cefnogi perthynas y cwpl, pa un a ydynt gyda'i gilydd neu ar wahân, yn bwysig iawn. Dyna pam y mae'n nodwedd gynyddol o'n rhaglenni cymorth i deuluoedd. Y llynedd, darparwyd cyllid gennym i hyfforddi'r gweithlu cymorth i deuluoedd fel eu bod yn gallu ymgorffori cymorth pan fo gwrthdaro rhwng rhieni yn y gwasanaethau ehangach ar gyfer teuluoedd.
Nawr, er bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am benderfynu ar union natur y ddarpariaeth o wasanaethau lleol, rydym yn disgwyl iddynt gael eu llywio gan ein canllawiau ar gymorth rhianta sy'n rhoi pwyslais ar wasanaethau sy'n gweithio mewn ffordd gyfannol ar gyfer y teulu cyfan. Mae ffocws ein canllawiau ar ba gymorth rhianta i'w ddarparu, a hefyd ar sut y dylid ei ddarparu. Mae'n cynnwys strategaethau ymarferol i ddarparu ar gyfer anghenion arbennig tadau. Ac fel yr amlinellodd Nick, am amryw o resymau, mae'n bosibl eu bod yn cymryd llai o ran na mamau mewn cymorth i deuluoedd, weithiau am y rhesymau a amlinellais eisoes. Felly, mae'r canllawiau'n rhoi llawer o syniadau i ymarferwyr ynglŷn â denu tadau i gymryd rhan, syniadau sy'n seiliedig ar ymchwil a gyhoeddwyd gan dadau eu hunain yn ogystal â chan ymarferwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes gyda thadau. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol hyrwyddo gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn weithredol i dadau a chefnogi eu hymgysylltiad. A cheir rhai enghreifftiau da iawn o ble maent yn darparu grwpiau ymroddedig wedi'u teilwra'n benodol i anghenion tadau. Felly, yn Abertawe, er enghraifft, mae ganddynt raglen tadau cefnogol ac mae ganddynt grŵp cymunedol i dadau, yn debyg iawn i'r prosiect Dads Can rydym yn ei drafod yma heno mewn gwirionedd. Ac yn ddiweddar, llongyfarchais Abertawe ar ennill gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd am eu prosiect Jigsaw rhagorol. Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a phrosiect gan awdurdod lleol Abertawe, a ariennir ar y cyd drwy Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, ac mae'n darparu cymorth ar gyfer menywod a'u partneriaid, yn ystod beichiogrwydd a hyd nes y bydd eu plentyn yn cael ei ben blwydd yn dair oed. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cynyddu, er enghraifft, cyfraddau bwydo ar y fron, yn lleihau cyfraddau ysmygu, ac mae hefyd wedi nodi nad yw nifer o deuluoedd angen cymorth gan wasanaethau statudol mwyach. Felly, mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.
Ond mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb, Nick, am benderfynu ar union natur y ddarpariaeth gan wasanaethau lleol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol ac anghenion a nodwyd o fewn eu hardaloedd eu hunain. Felly, gyda hynny mewn cof, a chan glywed y sylwadau cryf a wnaeth heno, a dathlu gwaith Dads Can, rwy'n annog yr Aelod dros Sir Fynwy i gysylltu gyda'r awdurdod lleol i ddeall a allai Dads Can neu brosiectau tebyg helpu i ddiwallu'r anghenion a nodwyd ganddynt yn eu hardal.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd fy mod yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r gwaith y mae mamau a thadau yn ei wneud, a dyna pam y mae'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o ymyriadau i'w cefnogi i gyflawni'r gwaith hollbwysig hwn. Rydw i'n gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau posib i deuluoedd ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Nick, am ddod â hyn i sylw'r Senedd.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch i chi, Aelodau.