Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Mehefin 2018.
Nododd un o argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru',
'Mae perygl gwirioneddol bod creu Byrddau Rhanbarthol a strwythurau i’w cefnogi yn ychwanegu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth i ddatblygiad economaidd yng Nghymru.'
Rydym ni'n deall erbyn hyn y bydd gan y gogledd, y de-orllewin y canolbarth, a rhanbarth Dwyrain De Cymru, swyddog rhanbarthol i oruchwylio'r bargeinion dinesig a thwf. A allai'r Prif Weinidog roi syniad o sut y mae'r penodiadau hyn yn mynd rhagddynt, a hefyd amlinellu'r hyn y mae'n ei gredu fydd eu cylch gwaith llawn?