Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 5 Mehefin 2018.
Rwy'n deall bod tri yn eu swyddi erbyn hyn. Gofynnodd y cwestiwn am y strwythur. Wel, lle mae gennych chi fargen rhanbarthol, mae angen strwythur rhanbarthol i sicrhau'r fargen honno; allwch chi ddim dibynnu ar awdurdodau lleol unigol i'w wneud gan weithio ar eu pennau eu hunain, ond, trwy weithio gyda'i gilydd, a chyda lefelau eraill o Lywodraeth, gallant sicrhau'r canlyniad gorau i'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno.