Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Nid ydym yn rhagweld hynny o gwbl. Gosodwyd y fasnachfraint ddiwethaf ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i nifer y teithwyr. Cafwyd cynnydd aruthrol i nifer y teithwyr, ac rydym ni'n gweld nawr y gorlenwi sy'n digwydd ar gynifer o wasanaethau, nid yn unig ar reilffyrdd y Cymoedd, ond ar draws llawer o wasanaethau sy'n rhedeg ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r gororau. Rydym ni wedi cynnwys yn y cytundeb y disgwyliad y bydd nifer y teithwyr yn cynyddu, yn enwedig ond nid yn unig teithwyr sy'n mynd trwy Caerdydd Canolog, ac mae'r cytundeb yn seiliedig ar weld cynnydd i nifer y teithwyr. Ni allaf weld y niferoedd yn gostwng. Ni allaf weld y bydd pobl eisiau teithio llai neu beidio â theithio i'r gwaith. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod digon o gapasiti dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fel bod pobl yn teimlo bod dewis cyfforddus sy'n cynnig gwerth da am arian yn hytrach na'r car. Ond yr hyn na allwn ni ei wneud yw parhau i adeiladu ffyrdd i mewn i'n dinasoedd yn y gobaith y bydd hynny'n datrys y broblem o draffig. Ni ellir gwneud hynny heb ddymchwel tai.