1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfarnu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau? OAQ52261
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fasnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ52285
Gwnaf. Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau dau a phedwar gael eu grwpio.
Bydd Aelodau yn ymwybodol erbyn hyn o fanylion y contract gwasanaethau rheilffyrdd newydd, yn dilyn datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddydd Llun.
Iawn. Diolch. Ychydig cyn y toriad, cyhoeddwyd enillydd masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau gennych, a nodwyd eisoes eich bod chi wedi torri ymrwymiad maniffesto o gael cwmni rheilffordd di-elw. Ond mae hefyd yn ymddangos nawr eich bod chi'n preifateiddio'r seilwaith o reilffyrdd craidd y Cymoedd hefyd, ac mae hynny'n bryder mawr ar ôl yr hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y gwnaeth y Ceidwadwyr breifateiddio rheilffyrdd—yn benodol, cawsom ni drychineb Hatfield, a arweiniodd at droi cefn ar gwmnïau preifat yn rhedeg Railtrack, a chreu Network Rail fel corff cyhoeddus. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pa un a ydych chi wedi cael caniatâd gan Network Rail i breifateiddio'r seilwaith hwn, a'r cwestiwn gwirioneddol mewn gwirionedd yw: pam na ellir ei gadw mewn perchnogaeth gyhoeddus, a beth fydd yn digwydd i'r 1,600 o bobl y mae Network Rail yn eu cyflogi yn uniongyrchol yng Nghymru? A fydd eich Llywodraeth Lafur chi yn trosglwyddo'r bobl hyn i'r corfforaethau amlwladol preifat?
Na fydd. Yn gyntaf oll, mae'n debyg ei bod hi'n iawn i ddweud mai ein dewis cyntaf fyddai wedi bod cael sefydliad neu gorff sector cyhoeddus di-elw i wneud cais am y fasnachfraint. Cafodd hynny ei ddiystyru'n benodol gan y ddeddfwriaeth yn San Steffan, rhywbeth na wnes i ei groesawu, nawr nac ar y pryd. Fodd bynnag, yr hyn sydd gennym ni yw gwasanaeth a fydd yn wasanaeth ardderchog. Bydd yn gwella capasiti ar draws Cymru gyfan, a bydd pawb yn gweld gwahaniaeth cadarnhaol i wasanaethau. Mae e'n awgrymu bod y rhwydwaith wedi cael ei breifateiddio. Wel, rydym ni wedi siarad â'r undebau rheilffyrdd, gyda'r RMT—rwyf i wedi siarad â nhw'n bersonol—gyda'r TSSA, ac gydag ASLEF hefyd. Maen nhw'n deall y ffordd ymlaen. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr, er enghraifft, y bydd giard ar bob trên, i ychwanegu at ddiogelwch teithwyr. Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r undebau er mwyn darparu rhwydwaith rheilffyrdd a fydd, yn fy marn i, yn achos cenfigen i weddill y DU yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried yr anhrefn yr ydym ni'n ei weld sy'n bodoli mewn rhai rhannau o Loegr ar hyn o bryd.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych, yn enwedig i lawer ohonom ni a ymgyrchodd am flynyddoedd lawer i reilffordd Glynebwy i Gaerdydd aros yng Nghasnewydd. Mae wedi ennill llawer o gefnogaeth leol, gan gynnwys oddi wrth y South Wales Argus, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith ar y mater hwn, ac mae'n hwb mawr a fydd yn cysylltu cymunedau ar draws y rhanbarth. Croesawaf y cyhoeddiad y bydd £800 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cerbydau a bod y fasnachfraint wedi ymrwymo i gomisiynu 148 o drenau newydd sbon dros y pum mlynedd nesaf.
Nododd y cyhoeddiad ddoe y byddai dros hanner y trenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. A allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynghylch pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda CAF Rail yng Nghasnewydd?
Wel, mae'r buddsoddiad CAF yn arwyddocaol iawn. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n fuddsoddiad cyfalaf aruthrol o bwysig. Bydd yn creu 300 o swyddi medrus iawn yng Nghasnewydd hefyd. Gallaf ddweud y disgwylir i'r gweithredwr a'r partner datblygu gaffael fflyd gerbydau teithiau hir gan CAF. Bydd y cerbydau hynny yn cael eu cydosod yng nghyfleuster CAF yng Nghasnewydd. Wrth gwrs, bydd y trefniadau cytundebol yn fater masnachol rhwng yr ODP a CAF ei hun, ond mae'n enghraifft ardderchog o gydweithio er mwyn darparu swyddi yng Nghymru. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i mai un o'r pethau a ddenodd CAF i Gymru yn y lle cyntaf oedd y ffaith bod gennym ni raglen gyffrous o fuddsoddiad yn ein rheilffyrdd.
Dywedodd y datganiad ddoe gan Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth y byddwn yn gweld ail wasanaeth cyflym arosfannau cyfyngedig bob awr ar reilffordd Wrecsam i Bidston o 2021, ac o 2022, yn gweld gwasanaethau yn aros yn Wrecsam yn rhan o wasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad a wnaed i mi ddoe gan grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd yn y gogledd-ddwyrain y gallai'r ddau drên a neilltuwyd i'r llwybr fod yn rhedeg ar wasanaeth cynharach i mewn i Wrecsam am tua 8.30 a.m. ac yn gweithredu gwasanaeth amlach ar hyd y rheilffordd fin nos ac ar ddydd Sul a, cyhyd â bod modd cael gafael ar griwiau trên, y gellid gwireddu hyn mor gynnar â mis Rhagfyr 2018 neu'r newid i'r amserlen ym mis Mai 2019?
Ie, hynny yw mae'r rhain i gyd yn rhan o'r trafodaethau ar amserlennu, ond y bwriad fel y dywedodd yr Aelod yn briodol yw gwella'r gwasanaeth ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston, ac yn wir, oherwydd yr Halton Curve, ymhellach na hynny, wrth gwrs, i drafod gyda Merseyrail y posibilrwydd o ddefnyddio twnnel Mersi hefyd i drenau allu mynd yn syth i Lerpwl. Bydd y trafodaethau hynny yn cael eu cynnal er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'n uchelgais hirsefydlog i drenau o Wrecsam Canolog fynd i Lerpwl, ond, wrth gwrs, mae gwasanaeth Wrecsam i Bidston ymhlith un o'r prif ymgeiswyr ar gyfer gwelliant y bydd pobl yn ei weld, ac rydym ni eisiau gweld y rheilffordd honno'n datblygu hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol.
Un o'r materion y cyfeiriwyd ato ddoe mewn adroddiadau yn y wasg oedd y bydd y taliadau a wnaed i ddeiliad newydd y fasnachfraint yn dibynnu i ryw raddau ar eu darpariaeth o wasanaeth, sy'n swnio'n dda. Nawr, roedd rhai o'r meini prawf y cyfeiriwyd atynt yn cynnwys glendid, ansawdd gwasanaeth a phrydlondeb, ond un o'r problemau gyda gwasanaethau rheilffyrdd wedi eu preifateiddio yr ydym ni wedi eu cael yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yw, weithiau, o ran prydlondeb, y gellir osgoi'r rheolau weithiau trwy ganslo trenau. Roeddwn i'n meddwl tybed a ystyriwyd y mater hwnnw wrth ddyfarnu'r contract.
Na, ni all hynny ddigwydd. Rydym ni'n ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd yn Northern Rail. Rydym ni wedi sicrhau yn rhan o'r contract na all gweithredwyr rheilffyrdd osgoi eu rhwymedigaethau trwy redeg llai o drenau neu ddim trenau, ac, wrth gwrs, yn rhan o'r cyhoeddiad, bydd trefniadau iawndal wedi eu symleiddio i deithwyr sy'n gorfod aros hefyd. Felly, rydym ni eisiau gwneud y gwasanaeth mor ystyriol o ddefnyddiwr â phosibl, ac mae'n gyffrous bod y gweithredwr eisiau gwneud hynny hefyd. Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio gyda ni er mwyn adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer y dyfodol. Mae dyddiad trenau 40 mlwydd oed yn rhedeg ar reilffyrdd y Cymoedd yn arbennig—mae'r dyddiau hynny yn dod i ben, ac rwy'n siŵr y bydd pobl y Cymoedd yn falch iawn o weld hynny.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed o ganlyniad i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i gynnwys gwasanaethau bob hanner awr i reilffordd Bro Morgannwg o 2022. Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer, ac, wrth gwrs, byddwch yn cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ailagor gorsafoedd yn y Rhŵs a Llanilltud Fawr yn 2005. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd gwasanaeth bob hanner awr sy'n galw yng ngorsaf y Rhŵs ar gyfer Maes Awyr Caerdydd hefyd yn gwella mynediad at y maes awyr?
Bydd, mi fydd. Gallaf ddweud hefyd y bydd Trafnidiaeth Cymru, gyda chefnogaeth gan yr OPD, hefyd yn caffael gwasanaeth bws yn rhan o ddull integredig o wella cysylltedd ar draws Bro Morgannwg, gan gysylltu'r Barri a'r maes awyr, a bydd hwnnw ar gael erbyn 1 Ionawr 2024 fan bellaf.
Rwy'n croesawu'r contractau newydd ac yn enwedig y cerbydau newydd ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd y mae'n hen bryd iddyn nhw gael eu cyflwyno, ond hefyd y gostyngiad i brisiau tocynnau ar gyfer y Cymoedd uchaf, a fydd yn helpu llawer o bobl i gael mwy o gyfleoedd i gymudo i mewn a chael mynediad at swyddi, yn enwedig yng Nghaerdydd.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ddweud rhywbeth am y risgiau a allai ddod o'r contract mewn o ran y gwahanol agwedd tuag at rhannu risg? Os byddwn yn gweld na fydd nifer y teithwyr a phrisiau tocynnau yn cyrraedd y nod o'u cymharu â disgwyliadau, beth allai'r goblygiadau fod i wasanaethau eraill y Llywodraeth?
Nid ydym yn rhagweld hynny o gwbl. Gosodwyd y fasnachfraint ddiwethaf ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i nifer y teithwyr. Cafwyd cynnydd aruthrol i nifer y teithwyr, ac rydym ni'n gweld nawr y gorlenwi sy'n digwydd ar gynifer o wasanaethau, nid yn unig ar reilffyrdd y Cymoedd, ond ar draws llawer o wasanaethau sy'n rhedeg ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r gororau. Rydym ni wedi cynnwys yn y cytundeb y disgwyliad y bydd nifer y teithwyr yn cynyddu, yn enwedig ond nid yn unig teithwyr sy'n mynd trwy Caerdydd Canolog, ac mae'r cytundeb yn seiliedig ar weld cynnydd i nifer y teithwyr. Ni allaf weld y niferoedd yn gostwng. Ni allaf weld y bydd pobl eisiau teithio llai neu beidio â theithio i'r gwaith. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod digon o gapasiti dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fel bod pobl yn teimlo bod dewis cyfforddus sy'n cynnig gwerth da am arian yn hytrach na'r car. Ond yr hyn na allwn ni ei wneud yw parhau i adeiladu ffyrdd i mewn i'n dinasoedd yn y gobaith y bydd hynny'n datrys y broblem o draffig. Ni ellir gwneud hynny heb ddymchwel tai.