Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:35, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych, yn enwedig i lawer ohonom ni a ymgyrchodd am flynyddoedd lawer i reilffordd Glynebwy i Gaerdydd aros yng Nghasnewydd. Mae wedi ennill llawer o gefnogaeth leol, gan gynnwys oddi wrth y South Wales Argus, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith ar y mater hwn, ac mae'n hwb mawr a fydd yn cysylltu cymunedau ar draws y rhanbarth. Croesawaf y cyhoeddiad y bydd £800 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cerbydau a bod y fasnachfraint wedi ymrwymo i gomisiynu 148 o drenau newydd sbon dros y pum mlynedd nesaf.

Nododd y cyhoeddiad ddoe y byddai dros hanner y trenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. A allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynghylch pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda CAF Rail yng Nghasnewydd?