Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 5 Mehefin 2018.
Dywedodd y datganiad ddoe gan Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth y byddwn yn gweld ail wasanaeth cyflym arosfannau cyfyngedig bob awr ar reilffordd Wrecsam i Bidston o 2021, ac o 2022, yn gweld gwasanaethau yn aros yn Wrecsam yn rhan o wasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad a wnaed i mi ddoe gan grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd yn y gogledd-ddwyrain y gallai'r ddau drên a neilltuwyd i'r llwybr fod yn rhedeg ar wasanaeth cynharach i mewn i Wrecsam am tua 8.30 a.m. ac yn gweithredu gwasanaeth amlach ar hyd y rheilffordd fin nos ac ar ddydd Sul a, cyhyd â bod modd cael gafael ar griwiau trên, y gellid gwireddu hyn mor gynnar â mis Rhagfyr 2018 neu'r newid i'r amserlen ym mis Mai 2019?