Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Byddem yn annog, wrth gwrs, bod cymaint o ddur Cymru â phosibl yn cael ei ddefnyddio. Mae hi hefyd wedi codi dau bwynt pwysig arall o ran tariffau dur a'r morlyn llanw hefyd. Gallaf hysbysu'r Aelodau fy mod i wedi ysgrifennu at Greg Clark heddiw gan awgrymu iddo y dylai Llywodraeth y DU wneud cynnig o ran y contract gwahaniaeth i'r morlyn llanw ar yr un telerau ag a wnaethant y cynnig i Hinkley. Os yw'n iawn i Hinkley, mae'n iawn i Abertawe. Ac mae hi'n iawn i nodi yr addawyd trydaneiddio gan Lywodraeth y DU cyn iddyn nhw fynd yn ôl ar yr addewid. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol ac eraill wedi tawelu unrhyw obeithion am y morlyn llanw y bore yma. Wel, rydym ni wedi rhoi arian ar y bwrdd, ac rydym ni wedi dweud heddiw, 'Dylech chi drin y morlyn llanw yn yr un modd ag y gwnaethoch chi drin Hinkley.' Dydyn ni ddim yn gofyn dim mwy na hynny, ac rydym ni'n credu y byddai'n bosibl i'r morlyn llanw symud ymlaen ar y sail honno. Rydym ni'n disgwyl ymateb Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny.

O ran dur, ceir dau fater yn ymwneud â dur. Yn gyntaf, wrth gwrs, bydd y tariffau y mae'r Unol Daleithiau wedi eu cyflwyno yn creu sefyllfa lle bydd dur Cymru yn ddrytach ym marchnad yr Unol Daleithiau. Yr hyn nad yw'n eglur yw pa un a fyddai hynny'n arwain mewn gwirionedd at leihad i'r galw, o ystyried y ffaith bod cymaint o'r dur nad yw'n cael ei wneud yn yr Unol Daleithiau a bod yn rhaid ei brynu o'r tu allan beth bynnag. Iawn, nid ydym ni'n gwybod beth fydd effaith hynny, ond o bryder mawr hefyd yw ble y bydd dur a oedd ar gyfer marchnad yr Unol Daleithiau yn wreiddiol yn mynd yn y pen draw. Os bydd yn dod i Ewrop, bydd yn creu gormodedd o ddur yn Ewrop, bydd y pris yn gostwng, ac ni fydd hynny o fudd i gynhyrchwyr dur Cymru. Felly, rwyf i wedi dweud—roeddwn i yn Washington a chefais gyfarfodydd gyda phobl yno ddiwedd yr wythnos diwethaf—ei bod hi hefyd yn bwysig bod yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau prydlon nawr, o fewn wythnosau, nid o fewn misoedd, i sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar waith i sicrhau bod pris dur yn cael ei gefnogi yn Ewrop.