Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir materion strwythurol ar reilffordd dyffryn Conwy, o gofio'r ffaith ei bod yn aml yn dioddef llifogydd, ac rydym ni wedi gweld hynny dros y—. Wel, ddim yn aml; mae wedi dioddef llifogydd weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny'n rhywbeth i Network Rail ymdrin ag ef er mwyn osgoi hynny yn y dyfodol. Fe ofynnodd hi, 'Beth fydd gweddill Cymru yn ei weld?' Gwell gwasanaethau ar bob rheilffordd yng Nghymru; gwasanaethau amlach o Landudno, hefyd, er enghraifft; rydym ni eisoes wedi sôn am reilffordd Wrecsam-Bidstone; gwasanaeth bob awr gwirioneddol ar reilffordd y canolbarth; mwy o wasanaethau ar reilffordd Arfordir Cambria; uwchraddio gorsafoedd—cyflwyno gorsaf Bow Street, uwchraddio ym Machynlleth ynghyd â sicrhau dyfodol y siediau trenau yno; os byddwn yn dod i lawr ymhellach i'r de, trên ychwanegol ar reilffordd Calon Cymru; gwelliannau i orsafoedd yn Llanelli, yng Nghaerfyrddin; gwasanaethau amlach rhwng Abertawe a Harbwr Abergwaun. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn a fydd yn cael ei wneud ledled Cymru gyfan i sicrhau bod pawb yn elwa.