Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Mehefin 2018.
Prif Weinidog, bydd cap o 3 y cant yn arwain at elw rhwng £100 miliwn a £150 miliwn i KeolisAmey o'r contract hwn. Pa ydych chi'n eu talu nhw nawr neu ymhen pum mlynedd, mae'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi arian ym mhocedi cyfranddalwyr cwmni preifat yn hytrach na'i ailfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain. Mae hynny'n £150 miliwn y gellid bod wedi ei wario ar drenau gwell, ar fwy o orsafoedd, ar docynnau rhatach.
Nawr, roedd Deddf yr Alban 2016—[Torri ar draws.]—yn cynnwys cymal a oedd yn caniatáu'n benodol i Lywodraeth yr Alban gaffael gweithredwr rheilffyrdd sector cyhoeddus. [Torri ar draws.] Flwyddyn yn ddiweddarach—