Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Mehefin 2018.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed o ganlyniad i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i gynnwys gwasanaethau bob hanner awr i reilffordd Bro Morgannwg o 2022. Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer, ac, wrth gwrs, byddwch yn cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ailagor gorsafoedd yn y Rhŵs a Llanilltud Fawr yn 2005. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd gwasanaeth bob hanner awr sy'n galw yng ngorsaf y Rhŵs ar gyfer Maes Awyr Caerdydd hefyd yn gwella mynediad at y maes awyr?