Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, eisteddodd pob un ohonom ni yn y Siambr hon gan wylio Plaid Cymru yn mynd ati i ganfasio cefnogaeth y Torïaid er mwyn i arweinydd Plaid Cymru fod yn Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Ac nawr mae hi'n pregethu wrthym ni am weithio gyda'r Torïaid. Mae'r cof yn arbennig o fyr ar feinciau Plaid Cymru. Os bydd hi'n gofyn i mi, 'A ydw i'n hapus gyda phob elfen ar y Ddeddf Cymru ddiwethaf?, yr ateb yw 'nac ydw'. 'Nac ydw' yw'r ateb wrth gwrs. Ceir rhai elfennau ohoni nad wyf i'n eu hoffi. Ond mae'r rhan fwyaf ohoni yn rhywbeth y credaf oedd yn werth ei chefnogi. Nid wyf i'n cymryd y safbwynt absoliwtaidd y mae hi o, 'Gadewch i ni neidio oddi ar ymyl y dibyn a gadewch i ni weld beth sy'n digwydd.' Y gwir amdani yw bod mwy o waith i'w wneud ar ddatganoli. Rydym ni'n gwybod hynny. Gwn ei bod hithau'n gwybod hynny.

Ond yr hyn yr ydym ni wedi ei ddarparu, yn unol â'r cyfyngiadau sydd gennym ni, system well, sy'n cynnig mwy o werth am arian y bydd pobl y Cymoedd yn ei chefnogi ac y bydd pobl Cymru gyfan yn ei chefnogi. Bydd yn darparu system reilffyrdd o'r radd flaenaf i Gymru— system reilffyrdd o'r radd flaenaf—y system reilffyrdd orau a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru erioed, system a fydd yn darparu'r trenau gorau, system a fydd yn darparu swyddi i Gasnewydd—i CAF, gyda 300 o swyddi yno—system a fydd yn sicrhau ein bod ni'n bodloni ein targedau o ran cynaliadwyedd, o ran creu swyddi, o ran twf economaidd. Pam ar y ddaear na all Plaid Cymru gefnogi rhywbeth sy'n dda i Gymru dim ond am unwaith?