Busnesau Bach yng Nhrefynwy

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi busnesau bach yng Nhrefynwy? OAQ52274

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Trwy Busnes Cymru a'r banc datblygu, rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo entrepreneuriaid, wrth gwrs, a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru. Ac mae ein pwyslais yn parhau ar entrepreneuriaid a ysgogir gan arloesedd, swyddi a'r economi.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. A gaf i ofyn i chi, roedd pryder mawr ynghylch cyflwyno'r ailbrisiad ardrethi yn ddiweddar—y llynedd, dylwn i ddweud. Cafodd yr ailbrisiad hwnnw effaith gymysg ledled Cymru: roedd rhai ardaloedd yn llawer gwell eu byd, nid oedd eraill yn gwneud cystal. Cafwyd effaith wael ar ardaloedd fel fy ardal i yn sir Fynwy a hefyd Bro Morgannwg, y Bont-faen. Ceir un busnes yng Nghas-gwent yn fy etholaeth i y mae ei ardrethi busnes wedi cynyddu o £4,500 y flwyddyn i bron i £8,000. Gwn fod pecynnau cymorth a oedd ar gael, ond nid yw'r rheini wedi helpu pob busnes, yn enwedig y busnes hwnnw yng Nghas-gwent, sydd mewn trafferthion difrifol iawn erbyn hyn. A allwch chi ddweud wrthyf a ydych chi'n mynd i ailystyried y broses ailbrisio ardrethi a gweld a oes ffordd well y gallwch chi ddarparu cymorth i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio'n wael fel hyn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Yr anhawster yw os byddwch chi'n diwygio'r ailbrisiad neu'n dychwelyd i'r prisiad blaenorol, bydd gennych chi sefyllfa yn y pen draw lle mae'n rhaid i bobl dalu mwy o ganlyniad i'r ffaith eu bod nhw'n talu llai nawr. Ceir pobl sy'n talu mwy bob amser a cheir pobl sy'n talu llai bob amser. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o hynny trwy ailbrisiadau dros y blynyddoedd. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud wedyn, wrth gwrs, yw rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Nid wyf i'n ymwybodol o union fanylion sefyllfa'r busnes y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y byddwn ni'n darparu tua £210 miliwn o ryddhad ardrethi y flwyddyn hon i gynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill, ac mae hynny'n golygu y bydd mwy na thri chwarter talwyr ardrethi Cymru yn gweld gwahaniaeth. Yn wir, bydd mwy na hanner na fyddant yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.