Y Diwydiant Dur

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a'r cwestiynau lawer y mae wedi eu gofyn ar ran ei etholwyr, a hynny'n gwbl briodol? Mae'n gofyn beth ydw i wedi ei wneud. Roeddwn i yn Washington yr wythnos diwethaf. Cefais sawl cyfarfod yno, gan gynnwys cyfarfodydd gyda staff llysgenhadaeth Prydain. Gweithiwyd drwy'r hyn y mae angen ei wneud nesaf. Nid yw'n eglur, oherwydd gall fod yn anodd rhagweld yr hyn y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ei wneud, os caf ei roi felly. Fe'i gwnaed yn eglur droeon i'r Unol Daleithiau nad yw dur o Gymru na dur o'r DU yn peri bygythiad i ddiwydiant dur America mewn gwirionedd. Nid oes llawer o'r cynhyrchion yr ydym ni'n eu hallforio i'r Unol Daleithiau yn cael eu gwneud yn yr Unol Daleithiau. Y cwbl fydd yn digwydd yw y bydd y pris yn cynyddu i ddefnyddwyr America. Yr hyn nad ydym yn eglur yn ei gylch yw pa effaith fydd yna o ran tariffau. Gwn yn Nhrostre, er enghraifft, bod allforion i'r Unol Daleithiau yn rhan broffidiol iawn o'r busnes hwnnw, ac nid yw'n eglur, a dweud y gwir, pa un a fydd Trostre yn dal i allu parhau i werthu i'r Unol Daleithiau, oherwydd y ffaith nad yw'r Unol Daleithiau yn cynhyrchu'r hyn y mae Trostre yn ei gynhyrchu. Ond, fel y dywedais yn gynharach, yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad ydym ni'n gweld dur a oedd ar ei ffordd i farchnad yr Unol Daleithiau yn flaenorol yn cyrraedd y farchnad Ewropeaidd nawr, gan achosi gostyngiad i bris dur. Mae'n anochel na fyddai hynny'n helpu o ran cynaliadwyedd hirdymor ein diwydiant.