Y Diwydiant Dur

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn a chefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? OAQ52284

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cynhyrchu dur yng Nghymru ac i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy i'r sector. Rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, gyda Tata. Os caf i ddarllen i'r Aelod y datganiad ar y cyd a anfonwyd allan gennym yr wythnos diwethaf gyda Tata Steel, sy'n dweud:

Rydym ni'n gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda'n gilydd i gwblhau'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot, a fydd yn lleihau costau ynni ac yn lleihau allyriadau carbon. Rydym ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a bydd y buddsoddiad hwn yn chwarae rhan sylweddol yn hyn. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi'r sêl bendith terfynol ar gyfer y prosiect a darparu'r arian yn y dyfodol agos.

Mae hynny'n adeiladu, wrth gwrs, ar y cymorth sylweddol yr ydym ni wedi ei roi i gynhyrchu dur yng Nghymru, yn gwbl briodol, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw cynhyrchu dur i'n heconomi.

Photo of David Rees David Rees Labour 2:14, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna ac am achub y blaen ar fy nghwestiwn, i raddau. Ond mae'r sancsiwn a orfodwyd gan yr Unol Daleithiau ar ddur y DU yn mynd i gael effaith fawr ar ddur Port Talbot a chynhyrchion dur o fannau eraill yng Nghymru. Bydd cwmnïau dur yn troi at fannau eraill, at farchnadoedd eraill, rhywbeth yr ydych chi wedi ei amlygu eisoes, i werthu eu dur ac, felly, mae pris dur yn debygol o ostwng. Mae hyn yn effeithio ar broffidioldeb dur, felly, mae angen i ni roi sylw i'r materion hyn, ac rydych chi wedi gwneud sylwadau eisoes, diolch byth, ar yr adroddiad a ddatgelwyd y cyfeiriwyd ato yn y wasg wythnos neu ddwy yn ôl am y buddsoddiad o £30 miliwn yn Tata ar gyfer yr orsaf bŵer, felly gallaf adael yr un yna.

Ond cyfeiriasoch hefyd, yn eich ymateb i Caroline Jones, at y camau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion tariffau dur. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i wthio'r rheini? Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n cyfleu'r neges hon i Lywodraeth y DU, a mannau eraill, i sicrhau y cymerir camau i ddiogelu ein diwydiant dur a phroffidioldeb ein diwydiant dur. Fel arall, byddwn yn gweld niwed yn cael ei wneud i'n diwydiant ni yma.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a'r cwestiynau lawer y mae wedi eu gofyn ar ran ei etholwyr, a hynny'n gwbl briodol? Mae'n gofyn beth ydw i wedi ei wneud. Roeddwn i yn Washington yr wythnos diwethaf. Cefais sawl cyfarfod yno, gan gynnwys cyfarfodydd gyda staff llysgenhadaeth Prydain. Gweithiwyd drwy'r hyn y mae angen ei wneud nesaf. Nid yw'n eglur, oherwydd gall fod yn anodd rhagweld yr hyn y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ei wneud, os caf ei roi felly. Fe'i gwnaed yn eglur droeon i'r Unol Daleithiau nad yw dur o Gymru na dur o'r DU yn peri bygythiad i ddiwydiant dur America mewn gwirionedd. Nid oes llawer o'r cynhyrchion yr ydym ni'n eu hallforio i'r Unol Daleithiau yn cael eu gwneud yn yr Unol Daleithiau. Y cwbl fydd yn digwydd yw y bydd y pris yn cynyddu i ddefnyddwyr America. Yr hyn nad ydym yn eglur yn ei gylch yw pa effaith fydd yna o ran tariffau. Gwn yn Nhrostre, er enghraifft, bod allforion i'r Unol Daleithiau yn rhan broffidiol iawn o'r busnes hwnnw, ac nid yw'n eglur, a dweud y gwir, pa un a fydd Trostre yn dal i allu parhau i werthu i'r Unol Daleithiau, oherwydd y ffaith nad yw'r Unol Daleithiau yn cynhyrchu'r hyn y mae Trostre yn ei gynhyrchu. Ond, fel y dywedais yn gynharach, yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad ydym ni'n gweld dur a oedd ar ei ffordd i farchnad yr Unol Daleithiau yn flaenorol yn cyrraedd y farchnad Ewropeaidd nawr, gan achosi gostyngiad i bris dur. Mae'n anochel na fyddai hynny'n helpu o ran cynaliadwyedd hirdymor ein diwydiant.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:16, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, Prif Weinidog, rwy'n credu, pan ddaw hi i fygythiad tariffau'r Unol Daleithiau, bod angen i holl Lywodraethau'r DU weithio gyda'i gilydd a siarad ag un llais ar hyn a gwella ymdrechion, nid lleiaf o ran cael arian y dinas-ranbarthau hyn i lifo, oherwydd, yn amlwg, rhan o hynny, i fargen ddinesig bae Abertawe, yw'r ganolfan arloesedd dur. Cymeraf rywfaint o gysur o'ch sylwadau ar yr orsaf bŵer. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein drysu braidd gan y sylw na fyddai'r penderfyniad yn cael ei wneud am hynny tan ar ôl i chi adael fel Prif Weinidog, felly efallai y gallwch chi ein sicrhau y bydd yr arian hwn o gyllideb y llynedd yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl. Os gallwch chi roi dyddiad i ni ar gyfer hynny, yn hytrach na 'rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd', rwy'n credu y byddai holl weithwyr Tata yn llawer tawelach eu meddwl.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Nid oes dim wedi ei ohirio tra fy mod i'n Brif Weinidog. Fel y gall yr Aelod yn hawdd ei ddychmygu, rwy'n awyddus iawn i wneud penderfyniadau sy'n helpu pobl Cymru mor gyflym â phosibl. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny. O ran Port Talbot, rydym ni'n gofyn i bobl ein barnu ni ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes: yr arian yr ydym ni wedi ei ymrwymo, y cydweithio agos yr ydym ni wedi ei gynnal fel Llywodraeth gyda Tata—nid yn unig yn y DU ond ym Mumbai hefyd. A bydd hi wedi clywed y datganiad ar y cyd a ddarllenais yn y Siambr a wnaed gennym ni fel Llywodraeth a chan Tata.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ynghylch yr orsaf bŵer yr oeddwn i eisiau holi ymhellach oherwydd, wrth gwrs, cefais gyfarfod â Tata a dywedasant eu bod yn amlwg wedi cwblhau cam 1, ond mae ganddyn nhw dri cham arall i'w cwblhau o ran disodli'r orsaf bŵer, ac rydym ni'n sôn yn y fan yma am dariffau dur yr Unol Daleithiau. Siawns bod buddsoddi nawr yn hollbwysig yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot i sicrhau ein bod ni'n lliniaru rhag unrhyw rai o'r effeithiau gwaethaf sy'n dod o'r tariffau hynny. Felly, rwy'n deall o'u briffio nad yw penawdau'r telerau ar gyfer y cyllid grant wedi eu cytuno rhyngoch eto. A allwch chi roi sicrwydd y byddwch chi'n gwneud y penderfyniad hwnnw cyn gynted â phosibl ac y byddwch chi'n rhoi amlinelliad eglur i ni ynghylch pryd y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud, fel y gellir cyflymu'r cynnydd ym Mhort Talbot ar y cynllun penodol hwn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

'Gallaf' yw'r ateb amlwg i hynny. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud y penderfyniad cyn gynted â phosibl. Mae Tata yn deall hynny hefyd, a bydd hi wedi clywed yr hyn a ddywedwyd yn rhan o'r datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ni a Tata. Rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at y cyhoeddiad pryd y gellir gwneud hynny, a darparu'r cyllid. Mae Tata yn gwybod eu bod nhw wedi cael lefel o gymorth, yn ariannol ac yn foesol, gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa yn un o ymddiriedaeth, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y gallwn ni wneud y cyhoeddiad hwn mor gyflym â phosibl.