Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:53, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n canfod fy hun gyda grŵp sydd wedi ei ddal yn y canol yn y fan yma. Yn aml iawn, mae'n dda i fod yn y tir canol ym myd gwleidyddiaeth, yn fy marn i. Felly, gadawaf yr eithafwyr i ddadlau am hyn ymysg ei gilydd.

Prif Weinidog, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru pan ddaw i ail refferendwm, naill ai ar y fargen sy'n cael ei tharo o ran Brexit neu ar ail-gynnal refferendwm mis Mehefin 2016?