Ariannu Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu bod angen i Fro Morgannwg esbonio pam maen nhw'n gwario llai ar addysg nag unman arall yng Nghymru, fesul pen. Mae hynny o dan ei phlaid hi, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd angen iddyn nhw ei esbonio i'w hetholwyr. Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi yw hyn: ein bod ni'n ariannu awdurdodau lleol ar lefel uwch o lawer na fyddai'n wir pe bydden nhw yn Lloegr, rydym ni wedi ceisio eu diogelu cymaint ag y gallwn, ond mae'n anochel y bydd anawsterau a gwasgfa ar awdurdodau lleol, gan ein bod ni ein hunain yn cael ein gwasgu. A gaf i awgrymu ei bod hi'n codi'r mater gyda'i phlaid yn Llundain, sy'n parhau i orfodi gwasgfa, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ar Lywodraeth Cymru, ar gyllideb Cymru, gan daflu £1 biliwn tuag at Ogledd Iwerddon ar yr un pryd i brynu llond llaw o bleidleisiau? Dyna pa mor isel y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi gostwng—dim strategaeth, popeth yn ymwneud â phrynu pleidleisiau.