Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 5 Mehefin 2018.
Un o brif ddadleuon eich Llywodraeth chi dros yr angen i ddiwygio llywodraeth leol yn y ffordd a gynigir yn y Papur Gwyrdd ydy'r angen i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y cynghorau i'r dyfodol. Mae arweinwyr cynghorau ledled Cymru o bob lliw gwleidyddol yn cwestiynu'n gryf a fyddai uno'r cynghorau yn arbed arian. Felly, ar sail hynny, pa asesiad ariannol mae'r Llywodraeth wedi ei gwblhau er mwyn cefnogi bwriadau'r Papur Gwyrdd? Faint yn union ydych chi'n gobeithio ei arbed a dros ba gyfnod o amser? Beth fydd cost gychwynnol gweithredu'r ailstrwythuro yma?