Ariannu Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:08, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu yn y cyfnod hwn o gyni cyllidol y Torïaid, bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, ar gyfer y cylch cyllideb 2018-19 cyfredol, bod llai o'r arian hwn wedi ei neilltuo neu ei glustnodi, gan roi mwy o hyblygrwydd a disgresiwn dros flaenoriaethau gwariant awdurdodau lleol.

O'm cwestiynau diweddar i'r Ysgrifennydd dros Addysg, byddwch yn ymwybodol, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, bod hyn yn golygu bod cyllid ysgolion yn cael ei dorri a bod clybiau brecwast o dan fygythiad, sy'n mynd yn groes i ymgynghoriad cyllideb y cyngor ei hun pryd y dywedodd y cyhoedd mai ysgolion ac addysg oedd eu prif flaenoriaeth ar gyfer y fwrdeistref. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i hyn godi cwestiynau ynghylch pa un a all Llywodraeth Cymru gymryd y risg o dynnu cyllid wedi ei glustnodi o unrhyw feysydd blaenoriaeth eraill, fel Cefnogi Pobl, er enghraifft, os yw rhai awdurdodau lleol yn mynd i ddewis torri yn eich meysydd blaenoriaeth a bennwyd?