Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Mehefin 2018.
'Gallaf' yw'r ateb amlwg i hynny. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud y penderfyniad cyn gynted â phosibl. Mae Tata yn deall hynny hefyd, a bydd hi wedi clywed yr hyn a ddywedwyd yn rhan o'r datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ni a Tata. Rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at y cyhoeddiad pryd y gellir gwneud hynny, a darparu'r cyllid. Mae Tata yn gwybod eu bod nhw wedi cael lefel o gymorth, yn ariannol ac yn foesol, gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa yn un o ymddiriedaeth, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y gallwn ni wneud y cyhoeddiad hwn mor gyflym â phosibl.